Mynegwch eich barn a helpwch i siapio sut rydym yn mynd i'r afael â thlodi yn Abertawe
Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn fel cyngor ynghyd â'n cymunedau a'n partneriaid i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn Abertawe.
Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall, e.e. print bras, cysylltwch â tacklingpoverty@abertawe.gov.uk / 07887 055315
Bydd rhannu'ch profiadau chi yn gwneud gwahaniaeth trwy lywio Strategaeth Trechu Tlodi Abertawe, sy'n newydd yn dilyn adolygiad, ac wrth i ni archwilio sut gallwn ni uno a chydweithio i drechu tlodi yn ein dinas.
Gall bron unrhyw un gyrraedd sefyllfa lle maent yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, lle bydd digwyddiadau annisgwyl fel salwch, colli swydd, profedigaeth, lleihau oriau gwaith, diwedd perthynas a chostau byw cynyddol yn gwthio pobl i mewn i sefyllfa lle bydd hanfodion fel bwyd, ynni a chludiant yn dod yn anfforddiadwy a bydd yn dod yn anodd i gymryd rhan mewn cymdeithas.
Rydym am sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd iawn ac yn gwneud y pethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Helpwch drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn.
Dyddiad cau: 30 Medi 2023