Toglo gwelededd dewislen symudol

Barn pobl dros 50 oed yn cael ei cheisio am lunio gwasanaethau

Mae Cyngor Abertawe yn gofyn i breswylwyr sut orau y gall ddiwallu anghenion pobl 50 oed ac yn hŷn.

Active Older Adults (IS)

Active Older Adults (IS)

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i geisio barn y rheini sy'n 50+ oed, gwrando arnynt a'u cynnwys wrth helpu i lunio'r gwasanaethau sydd o bwys iddynt.

Mae arolwg yn fyw yn awr ar y ffordd orau o gyflawni hyn a gall pobl gymryd rhan drwy fynd i: www.abertawe.gov.uk/Ymgynghoriadgwrandoarbobl50plws

Gall unrhyw un sydd am gael copi caled e-bostio: ageingwell@abertawe.gov.uk

Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae Cyngor Abertawe yn ymrwymedig i wrando ar a gweithio gyda'n holl breswylwyr ni waeth beth yw eu hoedran, ond yn yr arolwg hwn rydym yn canolbwyntio ar y grŵp 50+.

"Oherwydd y Pandemig, mae angen ystyried yn awr sut a ble rydym yn ymgysylltu â phobl yn y cyfnod newydd a digynsail hwn o weithio.
"Rydym am sicrhau y clywir eu lleisiau fel ein bod yn darparu'r gwasanaethau iawn ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion.

"Rydym hefyd am wybod am eu blaenoriaethau a'u dyheadau wrth i ni barhau i weithio i wneud Abertawe y lle gorau y gall fod i bobl fyw a gweithio yma.
"Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen eich help arnom i gydgynhyrchu dulliau sy'n addas at y diben ac sy'n cynnwys pobl mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt mewn ffyrdd ystyrlon ac o ansawdd uchel.

"Bwriad yr arolwg hwn yw gofyn cwestiynau a fydd yn ein helpu i wneud hyn. Os nad ydych yn cytuno, neu os ydych yn credu ein bod wedi hepgor rhywbeth, rhowch wybod i ni. Mae'r hyn sydd gennych i'w ddweud yn bwysig iawn i ni."

Cynhelir yr arolwg tan 17 Medi.

Close Dewis iaith