Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynegwch eich barn am lwybrau cerdded a beicio newydd yn Abertawe

Gall preswylwyr yn Abertawe ddweud ble maent am weld llwybrau cerdded a beicio newydd fel rhan o ymgynghoriad ar draws y ddinas.

active travel

 

 

Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos newydd yn rhan hanfodol o ofynion Cyngor Abertawe i ddiweddaru'r Map Rhwydwaith Integredig (MRhI) presennol a fabwysiadwyd gan y cyngor yn 2018.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn rhan o fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru lle mae cynghorau'n gwneud ceisiadau am gyllid i greu llwybrau newydd ac annog mwy o bobl i ddewis beicio a cherdded yn hytrach na cheir.

Mae'r MRhI presennol, sydd ar gael i bobl ei weld ar-lein, yn nodi'r llwybrau presennol ar draws Abertawe, yn ogystal â llwybrau sydd wedi'u cymeradwyo i'w datblygu yn y dyfodol. Mae'r cyngor yn cyfeirio at y map wrth wneud cais am gyllid Teithio Llesol bob blwyddyn.

Eleni, llwyddodd Abertawe i wneud cais am £3.2 miliwn sy'n cael ei ddefnyddio i greu llwybrau newydd trwy Abertawe gyfan a fydd hefyd yn helpu gyda dylunio a dichonoldeb llwybrau cerdded a beicio pellach.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae'r Map Rhwydwaith Integredig yn ddogfen strategol bwysig sy'n lasbrint ar gyfer datblygu llwybrau cerdded a beicio yn Abertawe ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

"Yn ystod y 12 wythnos nesaf byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan a dweud wrthym ble maent am weld llwybrau newydd yn cael eu datblygu.

"Ers mabwysiadu'r map gwreiddiol yn 2018, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n ein galluogi i wella'n rhwydwaith presennol a chynyddu argaeledd llwybrau diogel oddi ar y ffordd i bawb eu defnyddio.

"Dyma gyfle i bawb fynegi eu barn a dweud wrthym ble maent am i lwybrau newydd gael eu datblygu.

Bydd gan breswylwyr tan 15 Tachwedd i gymryd rhan. Yn hwyrach ym mis Medi a mis Hydref caiff cyfres o sesiynau galw heibio cyhoeddus eu trefnu fel y gall preswylwyr fynd iddynt i siarad â thimau trafnidiaeth y cyngor am y cynlluniau.

I gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen https://www.abertawe.gov.uk/mapteithiollesoldrafft

 

Close Dewis iaith