Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

#BysusAmDdimAbertawe yn dychwelyd ar gyfer hanner tymor mis Hydref

Bydd menter hynod lwyddiannus #BysusAmDdimAbertawe yn dychwelyd ar gyfer hanner tymor mis hydref.

free bus survey

Yn ystod mis Awst gwelodd y cynllun a ariannwyd gan Gyngor Abertawe gynnydd o fwy na 50% yn nifer y bobl yn defnyddio bysus, gyda mwy na 220,000 o deithwyr yn manteisio ar y cynnig.

Nawr mae'n dychwelyd am y ddau benwythnos hanner tymor, gan ddechrau ddydd Sadwrn, 23 Hydref am dri diwrnod yn olynol ac eto o ddydd Gwener, 29 Hydref am dri diwrnod yn olynol.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod yr adborth ar y fenter yn yr haf wedi bod yn hynod gadarnhaol a bod rhai o'r llwybrau prysuraf a weithredwyd ar benrhyn Gŵyr wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu hyd at 65%.

Meddai, "Gwnaethom lansio #BysusAmDdimAbertawe i helpu teuluoedd a busnesau wrth iddynt ddod allan o'r pandemig. Dywedodd teuluoedd wrthyf gymaint o wahaniaeth a wnaeth iddynt. Roeddent wedi gallu mwynhau dyddiau mas heb orfod poeni am gostau teithio.

"Rhoddodd hwb hefyd i'r gymuned leol, gyda phobl yn teithio i ganol y ddinas a'n hatyniadau cymunedol a'n canolfannau siopa. Rydym am ei ailgyflwyno yn ystod hanner tymor mis Hydref fel y gall teuluoedd fanteisio ar y cynnig i deithio am ddim unwaith eto."

Croesawodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, nifer y teithwyr sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus.

"Fel cyngor rydym yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn yn Abertawe i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Cynhelir #BysusAmDdimAbertawe yn ystod hanner tymor, sef wythnos cyn dechrau digwyddiad COP26, lle bydd arweinwyr y byd yn cwrdd yn Glasgow i ystyried y camau nesaf yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r broblem.

"Rydym yn gobeithio y bydd #BysusAmDdimAbertawe yn annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy a defnyddio'u ceir yn llai yn y tymor hir, gan helpu i leihau llygredd a thagfeydd.

"Roedd yn galonogol iawn gweld pa mor boblogaidd oedd menter yr haf ac rydym yn edrych ymlaen yn barod at gyflwyno'r cynnig unwaith eto yn ystod gwyliau ysgol y Nadolig hefyd."

Mae'r cynllun yn golygu na fydd yn rhaid i bobl sy'n cychwyn ac yn gorffen eu teithiau bws o fewn ffiniau Cyngor Abertawe ar chwe diwrnod y cynnig dalu am y gwasanaeth, ar yr amod bod eu taith hefyd yn cychwyn cyn 7pm.

Cytunwyd ar y terfyn newydd o 7pm yn lle'r amser blaenorol o 11pm yn dilyn trafodaethau adborth â chwmnïau bysus, a bydd yn eu cefnogi i ddarparu'r gwasanaeth yn ystod chwe diwrnod y cynnig.

Mae'r fenter yn rhan o Gynllun Adfer gwerth £20m y cyngor sy'n ceisio cefnogi teuluoedd a rhoi hwb i'r economi leol yn dilyn y pandemig.

Close Dewis iaith