Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd yn Abertawe'n cael eu hailwynebu er mwyn osgoi sgidio

Mae priffyrdd a strydoedd ochr yn Abertawe wedi cael eu hailwynebu er mwyn atal cerbydau rhag sgidio.

swansea from the air1


Efallai fod modurwyr yn y ddinas eisoes wedi gyrru ar hyd rhai o'r ffyrdd sydd newydd gael eu trin, lle gwnaed gwelliannau i uwchraddio arwyneb y ffordd a gwella'u rhinweddau atal sgidio.

Mae'r gwaith cynnal a chadw, a elwir yn waith adfer arwynebau ffyrdd, wedi'i gwblhau ar fwy na dwsin o ffyrdd dros y mis diwethaf, gan orchuddio dros 30,000 metr sgwâr.

Fel arfer, mae angen cau ffyrdd dros dro neu gau un lôn ar y tro er mwyn gorffen y gwaith.

Mae'r ffyrdd yn cynnwys Trewyddfa Road yn Nhreforys, Ystrad Road yn Fforest-fach a Bohun Street yn Nhrefansel.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Mae ein timau priffyrdd wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf a thrwy gydol 2021, er gwaethaf y pandemig.

"Mae'r gwelliannau diweddaraf fel arfer yn cael eu cyflawni'n eithaf prydlon, gan darfu cyn lleied â phosib ar fodurwyr. Ar ôl cwblhau'r gwaith mae gwelliant mawr i arwyneb y ffordd gan ei gwneud yn fwy diogel i yrru arni."

Gwnaed gwelliannau pellach i'r priffyrdd, fel cynlluniau ailwynebu llawn, yn gynharach eleni gyda nifer o ffyrdd yng nghymuned Townhill yn cael eu hailwynebu'n llwyr.

Mae'r holl welliannau'n rhan o addewid Cyngor Abertawe i fuddsoddi mwy na £5 miliwn yn ffyrdd y ddinas rhwng 2021 a 2022.

Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Mae eleni wedi bod yn flwyddyn fawr arall o ran cynnal a chadw priffyrdd, a'r buddsoddiad rydym yn ei wneud i wella ffyrdd ar draws ein dinas.

"Mae pawb am weld gwelliannau i'n ffyrdd a'n strydoedd ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod y ffyrdd y mae angen y sylw mwyaf arnynt yn cael eu gwella."

 

Close Dewis iaith