Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddi Gwasanaethau Cymdeithasol

Swyddi a gyrfaoedd sy'n werth eu gwneud sy'n wirioneddol bwysig ac sy'n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl o bob oed ledled Abertawe.

Old man and young children image

Yng Nghyngor Abertawe rydym yn falch o'n gweithlugwasanaethau cymdeithasol a phopeth y maent yn ei wneud ac mae ein cynnig yn cynnwys cyfleoedd i weithio'n hyblyg, cynllun pensiwn, hyfforddiant a llawer mwy.

Gallai eich profiadau bywyd a'ch angerdd i ofalu am bobl a'u helpu i gael y bywyd gorau posib eich helpu i ddod o hyd i swydd nawr.

Yr hyn sy'n bwysig i ni fel gwasanaeth gofalgar a chefnogol yw eich agwedd a faint rydych chi am ofalu ac yn gyfnewid am hynny, byddwn ni'n gofalu amdanoch chi a'ch gyrfa.

Gweler yr hysbysebion rôl isod i weld beth sydd ar gael. Mae gan bob un fanylion cyswllt rhywun y gallwch chi ei e-bostio neu ei ffonio i ddarganfod mwy.


Maethu

Os hoffech wybod mwy am faethu yn Abertawe, siaradwch â ni - ni yw Maethu Cymru Abertawe.

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £12.75 i £13.13 yr awr. Cyflogir Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol i gefnogi unigolyn i fyw mor annibynnol â phosib. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oed (gan gynnwys plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Cydlynydd Ardal Leol (dyddiad cau: 09/10/25)

£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Rydym yn recriwtio Cydlynydd Ardal i gwmpasu ardal Llansamlet. Mae'r swydd yn gontract cyfnod penodol tan 31/03/2027 yn y lle cyntaf.

Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (dyddiad cau: 09/10/25)

£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid y Gwasanaeth Plant a'r Teulu i weithio fel swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth sy'n cwmpasu maes Comisiynu ac Adnoddau.

Technegydd Gosod a Chynnal a Chadw (dyddiad cau: 09/10/25)

£26,403 - £27,254 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol yn edrych i benodi Technegydd Gosod. Ar hyn o bryd mae'r swydd hon dros dro i ddechrau tan 31 Mawrth 2026 a bydd wedyn yn cael ei hadolygu.

Gweithiwr Cymorth (dyddiad cau: 13/10/25)

£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae Maeth Cymru Abertawe yn chwilio am Swyddogion Cymorth angerddol ac ymroddedig i ymuno â'n gwasanaeth Teulu a Ffrindiau sy'n tyfu. Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn dros dro am dair blynedd.

Arweinydd Gweithgareddau Cymorth (dyddiad cau: 21/11/25)

£24,404 y flwyddyn pro rata. Swydd lefel mynediad berffaith i unrhyw un sy'n edrych i ddechrau gyrfa mewn darparu gweithgareddau neu weithio gyda phlant a theuluoedd. Cyfoeth o hyfforddiant a datblygiad ar gael i'r ymgeiswyr cywir.

Swyddog Comisiynu Gweithredol (dyddiad cau: 21/10/25)

£46,142 - £50,269 y flwyddyn. Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am Swyddog Comisiynu sy'n angerddol am gomisiynu ar sail canlyniadau a rhoi plant yn gyntaf. Yn y rôl strategol hon, byddwch yn arwain cynllunio, datblygu a monitro gwasanaethau sy'n cefnogi plant a theuluoedd, gan sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei yrru gan anghenion a lleisiau plant.

Swyddog Sicrhau a Gwella Ansawdd X 3 (QAIO) (dyddiad cau: 21/10/25)

£40,777 - £45,091 y flwyddyn. Ydych chi'n angerddol am roi plant wrth wraidd popeth rydych chi'n ei wneud? Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am Swyddog Sicrhau a Gwella Ansawdd a fydd yn hyrwyddo comisiynu sy'n canolbwyntio ar blant ac yn seiliedig ar ganlyniadau yn ein tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Byddwch yn sicrhau bod pob lleoliad a gwasanaeth yn cael ei asesu'n drylwyr ar gyfer ansawdd, diogelwch, a'r gallu i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc.

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 22/10/25)

£36,363 - £39,862 y flwyddyn (Gradd 8) / £40,777 - £45,091 y flwyddyn (Gradd 9). Mae Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso. Mae swydd Gweithiwr Cymdeithasol llawn amser (Parhaol) 37 awr yr wythnos wedi codi o fewn Tîm Iechyd Meddwl y Person Hŷn. Rhaid i ymgeiswyr fod â Chymhwyster Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol a bod wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Hydref 2025