Toglo gwelededd dewislen symudol

Merch leol wedi'i llosgi'n wael gan farbeciw wedi'i gladdu ar y traeth

Mae'r rheini sy'n mynd i'r traeth yn Abertawe'n cael eu hannog i ddefnyddio biniau pwrpasol a ddyluniwyd i'r diben ar gyfer barbeciws tafladwy ar ôl i ferch ifanc ddioddef llosgiadau difrifol ar ei thraed.

bbq burn

Mae Cyngor Abertawe wedi condemnio gweithredoedd unigolion a gladdodd farbeciw tafladwy yn y tywod ar draeth Bae Abertawe, yr oedd y ferch 7 oed wedi cerdded arno wedyn. Mae'r plentyn yn aros yn awr i weld a fydd angen llawdriniaeth impyn croen arni.

Nid oedd Simi Adenaike, 7 oed a'i mam, Alex Adenaike, ynghyd ag aelodau eraill y teulu, wedi bod ar y traeth yn hir pan drodd eu diwrnod mas yn ddiwrnod o arswyd.

Meddai Alex, mam Simi, "Newydd gyrraedd y traeth oeddem ni ac roeddem yn edrych ymlaen at gael hwyl. Dechreuodd y plant chwarae bron yn syth, ac roedden nhw'n rhedeg o gwmpas ar y tywod. Fe glywon ni sgrech arswydus a rhedodd fy merch yn ôl atom.

"Roedd hi mewn cymaint o boen doedd hi ddim yn gallu dweud wrthym beth ddigwyddodd. Yn y pen draw, sylweddolom fod un o'i thraed yn goch iawn ac yn bothellog. Cawsom rywfaint o help gan ymwelwyr eraill ar y traeth i oeri'r llosg gyda dŵr ac aethpwyd â hi i'r ysbyty'n syth."

Roedd y teulu wedi darganfod barbeciw tafladwy wedi'i gladdu yn y tywod a dywedodd tystion wrthynt y gwelwyd grŵp yn claddu'r hambwrdd ffoil cyn gadael.

Meddai mam Alex, "Mae hyn wedi peri cymaint o ofid a nawr mae angen rhagor o driniaeth ar fy merch ac impyn croen o bosib.

"Mae'r cyngor wedi gwneud yr ymdrech i osod biniau ar gyfer barbeciws tafladwy ac roedd un heb fod ymhell oddi wrth y man lle cafodd y barbeciw ei gladdu."

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae'r digwyddiad hwn yn ofnadwy a dymunwn yn dda i Simi a'i theulu wrth iddi dderbyn triniaeth feddygol.

"Mae'r peryglon sy'n gysylltiedig â thaflu neu adael barbeciws tafladwy ar ein traethau'n hysbys a dyna pam rydym wedi mynd i'r drafferth o osod pymtheg o finiau ym mhob un o'n traethau.

"Mae unrhyw un sy'n meddwl ei fod yn iawn claddu barbeciw neu unrhyw wastraff arall yn y tywod ar ddiwrnod mas yn anghyfrifol ac yn gwbl anystyriol o'r anafiadau y gallant eu hachosi i ddefnyddwyr y traeth.

"Rydym wedi buddsoddi miloedd o bunnoedd yn gosod biniau gwastraff barbeciws parhaol ar hyd traeth Bae Abertawe a hefyd ym Mhorth Einon, Horton, Caswell a Langland ac mae mwy i ddod yn Rotherslade.

"Mae barbeciws a siarcol yn cadw eu gwres am oriau ar ôl iddynt gael eu defnyddio a gall hyn achosi llosgiadau difrifol i bobl sy'n sefyll arnynt yn ddamweiniol."

Mae timau glanhau traethau'r cyngor hefyd yn glanhau'r traethau bob bore yn ystod yr haf a thrwy gydol y dydd. Maent yn aml yn cael eu cynorthwyo gan wirfoddolwyr sydd hefyd am weld traethau glân. Mae timau ychwanegol hefyd yn targedu mannau lle ceir llawer o sbwriel ar yr adegau prysuraf.

Rhestr o draethau lle mae'r biniau barbeciws tafladwy wedi'u lleoli:

Bae Langland - 2 fin

Porth Einon

Horton

Rotherslade

Lleoliadau rhwng Bae Abertawe, rhwng Pier y Gorllewin a'r Mwmbwls, gan gynnwys

Y fynedfa i'r traeth ym maes parcio lle chwarae Pwynt Abertawe

Ar ben grisiau'r Ganolfan Ddinesig ger y traeth

Y Slip ger y Bay View

Y grisiau ger maes parcio The Secret, gyferbyn â Pharc Victoria

Ger The Secret

Y Slip ger Brynmill Lane

Uwchben nant Clun ger yr atyniad golff-troed

Blackpill, un ym mhob pen o'r ardal bicnic

Close Dewis iaith