Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyfleusterau gwefru i berchnogion cerbydau trydan ar gael ledled y ddinas

Bydd perchnogion cerbydau trydan yn cael y cyfle i wefru eu ceir wrth iddynt fod yn y siopau neu ar daith i'r traeth.

EV charger

Mae pedwar ar bymtheg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn 12 o feysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor ac mae bron pob un ohonynt wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad.

Mae'r ychwanegiadau diweddaraf yn golygu bod 42 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan bellach mewn 25 o leoliadau ar draws y sir a weithredir gan y cyngor, gan gynnwys naw yn y maes parcio De Bae Copr newydd sydd o dan Arena Abertawe.

Mae pob un ohonynt yn gallu gwefru dau gerbyd ar y tro, ac o'r rhwydwaith newydd, dim ond y mannau gwefru ym meysydd parcio Bae Bracelet a'r Llaethdy yn y Mwmbwls sy'n aros i ddod ar-lein yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hefyd bum man gwefru ychwanegol ar gael unwaith y bydd maes parcio Gogledd Bae Copr yn agor.

Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, y bydd y pwyntiau gwefru yn hwb go iawn i berchnogion ceir trydan a'i nod yw annog rhagor o bobl i ystyried newid o gerbydau petrol neu ddiesel yn y dyfodol.

Meddai, "Mae'r mannau gwefru a osodwyd yn ddiweddar wedi'u dewis yn dilyn trafodaethau ag aelodau ward a grwpiau a sefydliadau eraill. Maent wedi'u gosod mewn mannau sy'n gyfleus i'r rheini sy'n ymweld â'r ddinas am y dydd a'r rheini sy'n siopa mewn cymunedau lleol.

"Mae'r cwmni cyfleustodau bellach wedi cysylltu bob un ond dau o'r mannau gwefru â'r prif gyflenwad a byddant yn gwasanaethu ein cymunedau am flynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd, "Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fod yn gyngor carbon sero-net erbyn 2030 ac i'r ddinas gyfan gyrraedd y targed hwnnw erbyn 2050.

"Y pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yw'r cam diweddaraf i'r cyfeiriad cywir a'n bwriad yw cynyddu eu niferoedd dros y blynyddoedd nesaf. Ond megis dechrau yw hyn."

Mae Cyngor Abertawe hefyd yn arwain trwy esiampl ar gerbydau trydan, gyda'r nod o gwblhau ei newid o gerbydau petrol a diesel traddodiadol i gerbydau allyriadau isel iawn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae gan y cyngor y cerbydlu mwyaf o gerbydau trydan yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod a'i nod yw ychwanegu 25 o gerbydau ychwanegol yn ystod y misoedd nesaf at y 60 y mae eisoes yn eu gweithredu.

Mae rhestr lawn o leoliadau rhwydwaith gwefru'r ddinas ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cerbydautrydan

1.     Maes Parcio East Burrows

2.     Maes Parcio Pell Street

3.     Maes Parcio Trawler Road

4.     Maes Parcio Trwyn Abertawe,

5.     Maes Parcio Pontarddulais, Water Street

6.     Maes Parcio Gorwydd Road, Tre-gŵyr

7.     Maes Parcio Vardre Road, Clydach

8.     Maes Parcio Gorseinon, Lime Street (gyferbyn â chlwb rygbi Gorseinon)

9.     Maes Parcio Treharne Road, Treforys 

10.  Maes Parcio'r Baddon

11.  Parcio a Theithio Glandŵr x3

12.  Parcio a Theithio Fabian Way x3

13.  Maes Parcio Porth Einon

14.  Maes Parcio De Bae Copr x5

15.  Maes Parcio'r Strand

16.  Maes Parcio Clun (Blackpill)

17.  Maes Parcio Aml Lawr y Cwadrant

18.  Maes Parcio Knab Rock,

19.  Y Rec x3

20.  Maes Parcio Northampton Lane x3

21.  Maes Parcio Bae Langland

22.  Maes Parcio Aml Lawr y Stryd Fawr x3

23.  Maes Parcio'r Llaethdy

24.  Maes Parcio Bae Caswell

25.  Maes Parcio Bae Bracelet