Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer atgyweirio ffyrdd a mynd i'r afael â llifogydd yn Abertawe wedi'i gymeradwyo

Mae ffyrdd yn Abertawe y mae angen eu hatgyweirio ar fin elwa o fuddsoddiad £1 miliwn ychwanegol eleni.

road resurfacing

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â mannau yn y ddinas sy'n dioddef llifogydd yn ystod tywydd garw.

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu cymeradwyo adroddiad sy'n nodi cynlluniau i fuddsoddi £5 miliwn yn ychwanegol yn rhwydwaith priffyrdd y ddinas dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y buddsoddiad cyffredinol yn golygu y bydd £1 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar gynnal a chadw priffyrdd yn 2022/23, gan gynnwys atgyweirio palmentydd a hefyd fynd i'r afael â phroblemau draenio a llifogydd mewn rhannau o'r ddinas.

Caiff £2 filiwn ei ychwanegu at gyllidebau cynnal a chadw priffyrdd a gymeradwyir yn y dyfodol yn 2023/24 a 2024/25.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi bron £3.5 miliwn mewn ffyrdd a phalmentydd yn Abertawe eleni.

"Bydd yr arian ychwanegol rydym am ei fuddsoddi yn ein helpu i wella'n ffyrdd a mynd i'r afael â phroblemau llifogydd rydym wedi'u gweld eleni yn sgîl tywydd garw.

"Mae modurwyr a phreswylwyr am ein gweld ni'n buddsoddi yn ein rhwydwaith priffyrdd fel y gallant fyw eu bywydau heb fod materion fel llifogydd mewn eiddo neu ddifrod i gerbydau yn effeithio arnynt.

"Mae gennym raglen cynnal a chadw priffyrdd ardderchog ar waith sy'n golygu bod ein timau allan bob wythnos yn atgyweirio ffyrdd ac yn ymateb i alwadau gan y cyhoedd.

"Rwy'n hyderus y bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein galluogi ni i wneud hyd yn oed mwy o atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn ystod y tair blynedd nesaf."

Caiff yr arian ychwanegol ei ddarparu drwy Gronfa Adferiad Economaidd y cyngor a'i arian wrth gefn ar gyfer yswiriant.

Adroddodd y cyngor yn ddiweddar am welliannau i ffyrdd mawr yn y ddinas gyda bron 3 chilometr o arwynebau ffyrdd yn cael eu gosod ar hyd Pentregethin Road yng Nghwmbwrla, Castle Street yng Nghasllwchwr, Pentre Road ym Mhontarddulais a Coalbrook Road - Pengelli.

Gosodir 2.5 cilometr arall o ffordd newydd rhwng nawr a mis Chwefror 2023 fel rhan o gynlluniau ail-wynebu ar hyd Mumbles Road, Birchgrove Road a Carmarthen Road.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Rydym wedi gwneud gwelliannau mawr i'r priffyrdd yn ddiweddar a fydd yn helpu i estyn oes y prif ffyrdd yn Abertawe. Mae'n fuddsoddiad sylweddol yr ydym wedi ymrwymo i barhau ag ef, a'i gynyddu drwy gydol y flwyddyn a thros y ddwy flynedd nesaf."

Caiff y cynlluniau buddsoddiad priffyrdd diweddaraf eu hystyried yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Rhagfyr.

Close Dewis iaith