Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymuned yn cael ei chanmol am ei hymateb i'r ffrwydrad yn Nhreforys

Mae cymunedau yn y ddinas wedi cael eu canmol am y ffordd y maent wedi dod ynghyd i helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yn Clydach Road, Treforys, bythefnos yn ôl.

morriston blast library help point

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, fod ymateb y gymuned i'r rheini yr oedd angen cefnogaeth arnynt wedi bod yn wych.

Mae'r cyngor wedi sefydlu pwynt cefnogaeth gymunedol newydd sydd wedi'i staffio gan ei dîm Trechu Tlodi yn Llyfrgell Treforys ar gyfer preswylwyr yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y trychineb.

Meddai'r Cynghorydd Stewart, "Meddyliaf am deulu'r person a fu farw, y bobl a anafwyd a'r holl breswylwyr eraill yr effeithiwyd arnynt gan y trychineb hwn.

"Roeddwn i'n gwybod y byddai pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi'u cyd-breswylwyr ond mae'r ymateb wedi bod hyd yn oed yn well na'r disgwyl - mae'n anhygoel."

Yn y cyfamser, mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe'n cynnal apêl frys i godi arian ac mae ei dimau wedi bod yn cysylltu â'r rheini yr effeithiwyd arnynt i wneud taliadau o'r gronfa i'w helpu yn ystod y cyfnod hwn.

Hyd yn hyn, mae mwy na £14,000 wedi'u codi o gyfraniadau o bob rhan o Abertawe a thu hwnt diolch i unigolion, busnesau, sefydliadau eraill ac ysgolion.

Mae corau yn yr ardal yn dod at ei gilydd ar gyfer cyngerdd elusennol yng Nghapel y Tabernacl yn Nhreforys am 7pm nos Fercher 5 Ebrill i godi arian ar gyfer yr apêl, ac mae digwyddiadau codi arian eraill yn cael eu trefnu o hyd.

Roedd Clwb Pêl-droed Treforys a Neuadd Goffa Treforys wedi cymryd rôl arweiniol wrth gefnogi'r ymateb brys yn y dyddiau yn syth ar ôl y ffrwydrad, gan sefydlu pwynt casglu a mannau cyswllt. Mae Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu atynt i ddiolch iddynt am eu hymdrech yn ystod adeg dyngedfennol.

Bydd pob ceiniog a godir drwy'r apêl yn mynd i'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad. Os ydych chi'n gallu cyfrannu, gallwch wneud hynny yma: https://localgiving.org/appeal/morriston-appeal/

Gall preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad gael rhagor o wybodaeth yma: https://www.abertawe.gov.uk/CefnogiTreforys

 

Close Dewis iaith