Toglo gwelededd dewislen symudol

Canmoliaeth wrth i'r gymuned ddod ynghyd ar ôl y ffrwydrad nwy yn Nhreforys

Mae'r gwasanaethau brys, staff Cyngor Abertawe, preswylwyr a'r gymuned ehangach wedi cael eu canmol am y gefnogaeth ddigynsail y maent wedi'i rhoi i'r rheini y mae'r ffrwydrad nwy yn Nhreforys wedi effeithio arnynt.

Link to Swansea Council home page

Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr wedi cael caniatâd i ddychwelyd i'w cartrefi, ond mae mynediad i 12 eiddo yn parhau'n gyfyngedig wrth i'r ymgyrch atgyweirio ac adfer barhau.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ein staff, y gwasanaethau brys ac ystod eang o wasanaethau cymorth cymunedol wedi bod yn gweithio ddydd a nos dros y deuddydd diwethaf i gefnogi'r rheini y mae'r digwyddiad ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt.

"Erys ein meddyliau a'n pryderon gyda'r rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr hyn sydd wedi digwydd. Rydym ni, law yn llaw â'n partneriaid, wedi gwneud popeth y gallwn i gefnogi preswylwyr a'r holl rai yr effeithiwyd arnynt.

"Byddwn yn parhau i fod yno iddynt dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae amynedd preswylwyr a'r gymuned ehangach hyd yn hyn wedi'i werthfawrogi'n fawr.

 

Close Dewis iaith