Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl greadigol ifanc yng nghanol y ddinas yn elwa o gefnogaeth newydd ar gyfer gyrfaoedd

Mae pobl ifanc yn Abertawe sy'n frwd am sgiliau creadigol yn cael eu hannog i archwilio llwybrau cyffrous i'r gweithle.

Creative Day Glynn Vivian

Creative Day Glynn Vivian

Gyda sector diwydiannau creadigol Cymru yn ffynnu, mae tîm gwasanaethau diwylliannol Cyngor Abertawe yn cryfhau eu cysylltiadau rhwng busnesau a doniau ifanc.

Dangoswyd hyn gan ddiwrnod gyrfaoedd ar gyfer y diwydiant creadigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian y cyngor yng nghanol dinas Abertawe. 

Meddai Aelod y Cabinet, Elliott King, "Mae ein swyddogion gwasanaethau diwylliannol yn bwriadu agor llygaid pobl ifanc ynghylch y posibiliadau sydd ar gael - ac i ddangos i'r sector fod cronfa dalent enfawr yn Abertawe."

Mae tîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor yn cysylltu â phobl ifanc greadigol sy'n chwilio am waith yn y diwydiannau creadigol.

Mae llwyddiannau hyd yn hyn wedi cynnwys cyfle interniaeth â thâl a gynhelir mewn partneriaeth â'r Oriel Bortreadau Genedlaethol a chynllun digideiddio a fydd yn cysylltu gwirfoddolwyr ifanc â rhaglen 'Cyfuno' a Llyfrgelloedd Abertawe.

Mae'r Glynn Vivian yn cynnal sesiynau misol am ddim o'r enw Criw Celf yr Ifanc. Yn y sesiynau hyn mae pobl ifanc yn archwilio ystod o ddisgyblaethau creadigol. 

Yn ystod arddangosfa'r oriel i arddangos y sgiliau creadigol a helpodd i wneud His Dark Materials, a wnaed yng Nghymru, yn gyfres deledu hynod boblogaidd, mae swyddogion y cyngor wedi cynnal tri digwyddiad creadigol gyda Screen Alliance Wales a'r Rhaglen Cyfuno, menter a gyflwynir yn Abertawe drwy dîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor.

Mae Screen Alliance Wales yn gweithio ar draws cynyrchiadau teledu a ffilm, gan nodi cyfleoedd i'r rheini sy'n ceisio dechrau gweithio yn y diwydiant. Fe'i crëwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a gwneuthurwyr His Dark Materials, Bad Wolf.

Nod y Rhaglen Cyfuno a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw creu cyfleoedd drwy ddiwylliant.

Llun: Pobl ifanc yn mwynhau diwrnod gyrfaoedd yn y diwydiant creadigol yn y Glynn Vivian.

 

 

 

 

Close Dewis iaith