Toglo gwelededd dewislen symudol

Marchnad Abertawe

Marchnad Abertawe yw'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Mae'n farchnad arobryn, hanesyddol sy'n cynnig profiad siopa unigryw i ymwelwyr a phreswylwyr.

Oriau agor

Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 8.00am - 5.00pm
Dydd Sul: ar gau

Mae Marchnad Abertawe ar agor 6 diwrnod yr wythnos, ond gall hyn newid yn ystod gwyliau a chyfnodau prysur.

Mae Marchnad Abertawe ar gau bob dydd Llun gŵyl y banc.

Lle Llesol Abertawe

Yng nghanol y farchnad mae Gardd y Farchnad sy'n darparu ardal ddiogel, gynhwysol a chynnes i bobl eistedd a mwynhau cynnyrch o'r farchnad, neu eistedd a mwynhau'r amgylchoedd. Cynhelir digwyddiadau am ddim yn rheolaidd yng Ngardd y Farchnad.

  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
  • Teganau i blant
  • Dŵr yfed ar gael
  • Ardal eistedd gyda byrddau a seddi cyfforddus
  • Ardal â sinc ac offer cynhesu poteli babanod
  • Digwyddiadau a pherfformiadau rheolaidd
  • Marchnad feganaidd fisol
  • Lle i wylio'r byd yn mynd heibio mewn awyrgylch diogel, cynhwysol, cynnes a chroesawgar

Enw
Marchnad Abertawe
Cyfeiriad
  • Stryd Rhydychen
  • Abertawe
  • SA1 3PQ
Gwe
http://www.swanseaindoormarket.co.uk
Rhif ffôn
01792 654296

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Medi 2024