Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae eisiau eich help ar Abertawe i ddatblygu cyfleusterau sglefrfyddio a chwaraeon olwynog yn y ddinas

Gofynnir i sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a selogion chwaraeon olwynog eraill helpu i ddatblygu uwchgynllun ar gyfer y ddinas gyfan er mwyn gwella cyfleusterau sglefrio yn Abertawe.

skate park upgrade

Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi mwy nag £1 filiwn o'r neilltu i fuddsoddi mewn cyfleusterau parc sglefrio ac eisoes wedi trefnu cymorth dylunwyr parciau sglefrio rhyngwladol - Curve Studio.

Gofynnir yn awr am farn pobl ifanc yn y ddinas sy'n frwd am sglefrfyrddio a beicio BMX, ynghyd â'r rheini sy'n ystyried cychwyn ar y gamp, ynghylch yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei ddatblygu yn Abertawe.

Mae gan y ddinas rwydwaith o gyfleusterau sglefrio a BMX cymunedol o gwmpas y ddinas eisoes, gan gynnwys ym Mharc Victoria, Casllwchwr, Gorseinon, Treforys a Townhill.

Mae'r cyfleusterau presennol yn boblogaidd iawn ac mae rhai wedi'u huwchraddio'n ddiweddar, tra bod angen rhagor o fuddsoddiad ar eraill. Ond bydd Curve yn dod â phrofiad o'u prosiectau sglefrio llwyddiannus eraill fel bod y ddarpariaeth yn Abertawe'n cael ei thrawsnewid yn y blynyddoedd sy'n dod.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Curve Studio wedi gweithio gyda phartneriaid yn Llundain, Dyfnaint, Eastbourne, Gogledd Iwerddon ac ar draws Norwy i greu parciau sglefrio a thraciau BMX poblogaidd iawn. Maent newydd gwblhau'r parc sglefrio mwyaf gogleddol yn y byd, yn yr Arctig Norwyaidd.

 Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am greu rhai o'r parciau sglefrfyrddio, BMX a chwaraeon olwynog gorau yng Nghymru.

"Mae gan Curve Studio hanes rhyfeddol am greu cyfleusterau sglefrio ym mhedwar ban byd a byddwn yn gweithio gyda'r cyngor a'r cymunedau sglefrfyrddio a BMX i ddatblygu cyfres o opsiynau, strategaeth a chefnogaeth wrth ddylunio cyfleusterau y bydd pobl yn falch ohonynt.

"Fel ni, maent am weld y genhedlaeth nesaf o gyfleusterau sglefrio yn Abertawe yn helpu i fanteisio ar ymrwymiad a brwdfrydedd sglefrfyrddwyr a beicwyr BMX fel y bydd gan selogion chwaraeon olwynog yn Abertawe rywle i fynegi eu hunain, boed hynny er mwyn hwyl, lles neu am fod ganddynt uchelgais i gyrraedd y gemau Olympaidd.

Mae Kenneth Waggestad-Stoa o Curve Studio yn sglefrfyrddiwr brwd sydd wedi bod yn gyfrwng dylunio cyfleusterau sglefrio mewn mannau eraill yn y DU yn ogystal â thramor.

Meddai Kenneth, "Mae Curve Studio yn cynnwys pobl sy'n dwlu ar sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog. Mae gennym gysylltiad uniongyrchol â phobl sydd hefyd yn frwd am y gamp hon sy'n ein helpu i ddatblygu cyfleusterau yr hoffem ni eu defnyddio hefyd.

"Rydym wrth ein bodd o fod yn ymuno â Chyngor Abertawe i ddatblygu'r uwchgynllun strategol ar gyfer chwaraeon sglefrio ac olwynog.

"Rhaid canmol eu hymrwymiad i fuddsoddi mewn cymunedau lleol, a'r ffaith eu bod yn cydnabod anghenion a dyheadau pobl ifanc sy'n ymddiddori mewn chwaraeon sglefrio ac olwynog.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r cyngor, grwpiau lleol ac eraill wrth i ni ddechrau ar y daith gyffrous hon gyda'n gilydd.

Mae James Jones, beiciwr BMX Olympaidd a aned yn Abertawe, hefyd yn cefnogi'r cynlluniau ac yn meddwl y gallai nodau'r cyngor arwain at ddoniau newydd ifanc yn dod i'r amlwg yn y ddinas.

Meddai'r dyn 29 oed sy'n dod yn wreiddiol o ardal Sandfields Abertawe, "Mae beicio BMX a sglefrfyrddio eisoes yn hynod boblogaidd, ond byddant yn dod yn fwy poblogaidd fyth yn Abertawe ac mewn mannau eraill yn y blynyddoedd i ddod gan fod y ddwy gamp bellach yn ymddangos yn y gemau Olympaidd.

"Mae'n wych bod Cyngor Abertawe wedi cydnabod hyn ac yn rhoi cryn dipyn o gyllid o'r neilltu i greu gwell cyfleusterau yma.

I fod yn rhan o ddatblygu cyfleusterau parciau sglefrio o'r radd flaenaf yn Abertawe, cymerwch ran yn yr arolwg yma:www.abertawe.gov.uk/arolwgsglefrio

 

 

Close Dewis iaith