Toglo gwelededd dewislen symudol

71/72 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5JE

Swyddfeydd gradd A ar osod.

Cyfeiriad: 71/72 Kingsway, Abertawe, SA1 5JE
Deiliadaeth: Ar gael drwy brydles newydd ar sail telerau Atgyweirio ac Yswirio Llawn trwy dâl gwasanaeth ar gyfer tymor i'w gytuno.  
Asiant(iaid): Chris Terry / Avison Young / 07793 269442 / chris.terry@avisonyoung.com
                       Rhydian Morris / JLL / 07792 273120 / Rhydian.morris@jll.com
Maint: Swyddfeydd o 1,000 tr. sgwâr hyd at 47,000 tr. sgwâr
Pris rhentu : Wrth gyflwyno cais i'r asiantiaid

Sylwadau

Mae 71/72 Ffordd y Brenin yn adeilad swyddfa Gradd A tybiannol newydd yng nghanol dinas Abertawe Mae'r cynllun 104,000 tr. sgwâr yn cynnwys mannau cyhoeddus mewnol ac allanol, derbynfa ac awditoriwm mawr, lolfa fusnes, neuadd digwyddiadau lleoedd gweithio hyblyg wedi'u gwasanaethau a mwy na 47,000 tr. sgwâr o le swyddfa Gradd A.

Bydd y datblygiad defnydd cymysg yn cynnig lle gweithio hyblyg eithriadol sydd wedi'i alluogi'n ddigidol, gyda chynaladwyedd yn flaenllaw yn y dyluniad. Bydd yr adeilad yn cynnwys teras ar ben y to wedi'i dirlunio'n helaeth gyda golygfeydd dros Fae Abertawe.

Mae'r adeilad yn elwa o'r fanyleb/amwynderau canlynol:

  • Gwaith gosod CAT A cyfoes gyda soffitiau concrit agored
  • Cysylltedd rhagorol, sy'n targedu ardystiad platinwm WiredScore
  • Gweinydd/Ystafelloedd TG dynodedig ym mhob swyddfa ar bob llawr
  • Gwresogi llif oerol amrywiadwy a reolir gan Systemau Rheoli Adeiladau, system oeri a system awyr iach fecanyddol (dwysedd dyluniad 1 person i 10 m. sgwâr)
  • Goleuadau LED drwy'r holl adeilad
  • Lloriau mynediad uchel gyda system 'busbar' dan y llawr
  • Blychau pŵer wedi'u gosod yn y llawr ar gymhareb o 1:10 m. sgwâr
  • Gwydro uchder llawn gyda drysau gwydrog sy'n agor i falconïau dynodedig i denantiaid
  • Ardaloedd cegin/ymlacio wedi'u gosod ar bob llawr
  • 4 lifft i deithwyr
  • 69 o fannau diogel i feiciau a man gwefru beiciau trydan
  • Cawodydd ac ystafelloedd newid
  • Toiledau i ddynion, menywod a'r anabl ar bob llawr
  • Targedau 'Rhagorol', Tystysgrif Perfformiad Ynni 'A', a sero Net BREEAM ar waith

Cynlluniau safle a gwybodaeth ychwanegol

 

71-72 Ffordd y Brenin, Abertawe (PDF) [6MB]

Close Dewis iaith