Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol yr Esgob Gore : Goruchwylwyr Arholiadau

Goruchwylwyr Arholiadau - Rhan amser, oriau achlysurol

Ysgol yr Esgob Gore,
Heol De-la-Beche,
Sgeti,
Abertawe,
SA2 9AP

Ffôn: 01792 411400
Ffacs: 01792 411800

Pennaeth: Mrs H Burgum
Nifer ar y gofrestr: 1330

Yn eisiau: goruchwylwyr i ategu'r tîm presennol yn Ysgol Esgob Gore i gynorthwyo i sicrhau fod arholiadau yn cael eu cynnal yn ddidrafferth ac i sicrhau eu diogelwch.   Bydd y tîm yn goruchwylio arholiadau mewnol ac allanol ar bob lefel.   Cynhelir arholiadau yn bennaf o fis Tachwedd i fis Ionawr ac o fis Mai i fis Mehefin bob blwyddyn.   Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi weithio yn ystod tymor yr haf yn bennaf. 

Oriau gwaith: Amrywiol ac yn achlysurol pan fo angen

Cyfradd gyflog:  Gradd 2 - £11.77/awr

Cynhelir cyfweliadau ar ôl derbyn ceisiadau.

Manyleb person: Unigolyn pwyllog, cyfrifol, dibynadwy ac onest, â chefnir ym maes weithio gyda neu ofalu am blant.   Cymhwyster llythrennedd a rhifedd ar lefel 2.   Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion  Mae gwybodaeth berthnasol o gymorth cyntaf yn ddymunol.  Parodrwydd i fynychu hyfforddiant mewn technegau goruchwylio arholiadau.

Mae'r Ysgol Bishop Gore yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymroddiad hwn.  Mae angen gwiriad manylach gan y GDG ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.

Gellir lawlwytho ffurflenni cais o www.eteach.com neu eu casglu o'r ysgol.

Mae hon yn hysbyseb barhaus. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Janice John ar 01792 411400.  

Close Dewis iaith