Swyddi addysgu
Swyddi addysgu a swyddi gwag eraill mewn ysgolion yn Ninas a Sir Abertawe.

Sylwer y gofynnir i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud cais am wiriad manwl gan y GDG yn erbyn y rhestr o'r rhai sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant.
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff Clydach: Dirprwy Bennaeth
(dyddiad cau: 22/09/25 am 12pm). ISR: L5-9 Math o gontract: Llawn Amser. Tymor y contract: Parhaol. Rhif R: 253 (3-11 oed). Dyddiad Cychwyn: Ionawr 1 neu cyn gynted â phosibl.
Ysgol Gymraeg y Cwm: Pennaeth
(dyddiad cau: 04/09/25 am 2pm). Cytundeb: Llawn Amser. Tymor y cytundeb: Parhaol. GCU: L10-L16 Nifer ar y gofrestr: 127 o ddisgyblion (gan gynnwys meithrinfa). Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw cychwyn y gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd. I ddechrau yn Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosibl.
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff Clydach: Gweinyddwr Ysgol i gynnwys Clerc y Corff Llywodraethu
(dyddiad cau: 15/09/25 am 12 hanner dydd). Cyflog: Gradd 6/Lefel 4 (scp 11-17) Pro Rata. Contract: Parhaol. (Patrwm Gwaith: 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor, 39 wythnos y flwyddyn). Bydd yr amser sydd ei angen ar gyfer rôl Clerc yn cael ei dalu fel goramser. Angen o 20 Hydref 2025 ymlaen.
Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan : Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2
(dyddiad cau: 28/07/25)(hanner nos) Cynorthwywyr Addysgu. Amser tymor yn unig. Dros dro am flwyddyn (yn y lle cyntaf) 30 awr yr wythnos o ddydd Llun I Ddydd Gwener. Gradd 4 SCP 5-6 (£24,790 - £25,183 pro rata) Yn amodol ar addasiad yn ystod y tymor yn unig os yw'r dyddiad penodi ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.
Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt: Gofalwr
(dyddiad cau: 27/08/25 am 10pm). Gofalwr Rhan Amser (24 awr) / 52 wythnos y flwyddyn, Cyflog: Gradd 4 (SCP 5-6), £24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn.
Ysgol Gynradd Blaenymaes: Uwch Weithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg
(dyddiad cau: 29/08/25 am 12pm). Cyflog: Gradd 6. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn lleoliad 'Gloÿnnod Byw' Ysgol Gynradd Blaenymaes. Oriau gwaith: 40 wythnos y flwyddyn, amser tymor ac un wythnos ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf. 35 awr yr wythnos rhwng 8am a 4pm.
Ysgol Gynradd Blaenymaes: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg (Dros Dro)
(dyddiad cau: 29/08/25 am 12 hanner dydd). Mae Dechrau'n Deg Gloÿnnod Byw Blaenymaes yn ceisio penodi Gweithwyr Gofal Plant brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'u tîm i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel i blant yn y gymuned leol rhwng 2 a 3 oed. Llawn amser, 35 awr yr wythnos.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 27 Mai 2025