Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan: Gofalwr

(dyddiad cau: 18/08/25 am hanner nos). £26,403 - £27,254 y flwyddyn (Gradd 5 SCP 7-9) Llawn amser, Dros dro am 12 mis yn y lle cyntaf. 1200 ar y gofrestr. 11 i 18 oed, bechgyn a merched.

Mae llywodraethwyr yr ysgol gytun Gatholig lwyddiannus hin I blant 11 - 18 oed yn awyddus I benodi Gofalwr trefnus a chymwys..  Mae Gofalwr yn chwarae rhan allweddol yn yr Ysgol lle byddwch yn gweithio'n agos gyda Rheolwr y Safle, staff eraill y safle, Rheolwr Busnes yr Ysgol ar Pennaeth I reoli diogelwch yr adeiladau, a byddwch hefyd yn cymryd rhan regweithiol yn y Gwaith o gynnal a chadw a rheoli safle'r Ysgol.

Mae hon yn rol amser llawn dros dro am 12 mis (yn y lle cyntaf), yw hon, lle byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos sylfaenol ar batrwm sifftiau bob yn ail.  Byddwch yn gyfrifol am gydymffurfio â rheoliadau cyfreithiol, gweithredu larymau tân a lladron, a "dyletswyddau cynnal a chadw" lled-fedrus a dyletswyddau eraill sy'n deillio o ddefnyddio'r safle. Byddwch hefyd yn cysylltu â chontractwyr ac asiantaethau allanol ynghylch cwblhau cynnal a chadw wedi'i gynllunio a chynnal a chadw adweithiol.  

Mae cael D1 neu gyfwerth ar eich trwydded yrru er mwyn gyrru minibws 16 sedd yr ysgol yn ddymunol ond nid yn hanfodol. 

Mae ein hysgol yn gymuned gref a bywiog lle mae staff a disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi. 

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a lles myfyrwyr a staff. Fel rhan o'n hymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, bydd gofyn i chi gynnal gwiriad cofnod troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a bydd yr ysgol yn cynnal gwiriadau geirda.

Mae llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys.

Mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar gael ar www.eteach.com

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgol Gatholig (Word doc, 66 KB)

Ysgol Gatholig Esgob Vaughan - Gofalwr - Disgrifiad swydd (PDF, 181 KB)

Ysgol Gatholig Esgob Vaughan - Gofalwr - Nodiadau i Ymgeiswyr (PDF, 253 KB)

Caniatâd i Atgyfeiriadau - Ffurflen (Word doc, 41 KB)

Deddf_Adsefydlu_Troseddwyr_1974_-_Ffurflen_Datgelu (Word doc, 63 KB)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Llun 18 Awst 2025 

Gyda dyddiadau cyfweliadau yn dechrau yn yr wythnos sy'n dechrau 25 Awst 2025

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Awst 2025