Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgynghorydd Gwella Ysgolion (dyddiad cau: 07/05/24)

£65,097 - £68,301 y flwyddyn (Soulbury 19-22 + 3 pwynt SPA). Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Ymgynghorydd Gwella Ysgolion i gyfrannu i wella addysg ar draws ysgolion cynradd Abertawe.

Teitl y swydd: Ymgynghorydd Gwella Ysgolion
Rhif y swydd: ED.66073-V2
Cyflog: £65,097 - £68,301 y flwyddyn  (Soulbury 19-22 + 3  pwynt SPA)
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Ymgynghorydd Gwella Ysgolion (ED.66073-V2) (PDF) [378KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.66073-V2


Dyddiad cau: 12.00am, 7 Mai 2024 

 

Mwy o wybodaeth

Rydym am gefnogi arweinwyr ysgolion Abertawe i ysgogi gwelliant drwy'r canlynol:

  • Datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel;
  • Gweithio ar y cyd i godi safonau;
  • Darparu cwricwlwm i ganolbwyntio ar ragoriaeth, lles a thegwch; 
  • Cynyddu'r gwaith o werthuso gan gymheiriaid o fewn system hunanwella.

Rydym nawr yn ceisio recriwtio gweithiwr proffesiynol llwyddiannus iawn i ymuno â'n tîm ymroddedig o gynghorwyr gwella ysgolion. Dylai ymgeiswyr fod yn benaethiaid/uwch arweinwyr ar ysgolion llwyddiannus a/neu gael llwyddiant amlwg yn ddiweddar yn weithiwr proffesiynol gwella addysg. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni rôl ymgynghorydd gwella ysgolion ar gyfer ysgolion cynradd yn Abertawe a bydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i wneud y canlynol:

  • Cyfrannu at gymorth Cyngor Abertawe i arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu,  
  • gweithio'n effeithiol gyda'r bartneriaeth ranbarthol a phartneriaid cyflenwi allweddol eraill i ddatblygu cymorth ar gyfer dysgu proffesiynol, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth a diwygio'r cwricwlwm. 

Bydd y swydd yn dechrau ar 03 Mehefin 2024 (neu cyn gynted â phosibl) a bydd yn swydd barhaol. Fodd bynnag, ystyrir cyfle secondiad (uchafswm o ddwy flynedd) yn seiliedig ar y cyflog presennol. Ar gyfer cyfle secondiad, rhaid gofyn am ganiatâd gan y corff llywodraethu i wneud cais am y swydd.

I drefnu trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â:

David Thomas, Prif Ymgynghorydd Gwelliant Ysgolion ar 07968135550, neu drwy'r e-bost yn David.thomas1@swansea.gov.uk.

Mae ffurflenni cais a chopïau o'r disgrifiad swydd a manyleb y person ar gael o www.swansea.gov.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 7 Mai 2024 (canol dydd)
Llunio rhestr fer: 9 Mai 2024
Cyfweliadau: 15 Mai 2024

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir 
 

 

Close Dewis iaith