Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddi gwag cyfredol

Swyddi sydd ar gael gyda Dinas a Sir Abertawe neu sefydliadau partneriaeth.

Carer helping someone up

Dylid cyflwyno ffurflenni cais erbyn 11.59pm ar y dyddiad cau.

Mae ffurflenni cais ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, e.e. print bras/braille/tâp sain. Ffoniwch 01792 636098 os oes angen unrhyw un o'r cyfleusterau hyn arnoch.

Blaenoriaethir y gweithwyr hynny y mae eu swyddi mewn perygl.

Os ydych eisoes yn gweithio i'r cyngor, rydych hefyd yn gymwys i wneud cais am y swyddi gwag mewnol sydd ar gael.

Awgrymiadau ar gwblhau eich ffurflen gais (PDF) [30KB]

Hoffwch ni ar Facebook (Yn agor ffenestr newydd) neu dilynwch ni ar Twitter (Yn agor ffenestr newydd) i gael y newyddion diweddaraf am swyddi.

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £10.50 yr awr. Mae amrywiaeth o swyddi Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol ar gael ledled ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oedran (plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Cyfreithiwr - Contractau (dyddiad cau: 16/06/23)

£36,298 - £40,478 y flwyddyn. Gwahoddir ceisiadau gan Gyfreithiwr neu Fargyfreithiwr brwdfrydig â chymwysterau a phrofiad addas i weithio yn ein tîm Contractau a Masnachol.

Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 08/06/23)

£41,496 - £43,516 y flwyddyn. Yn Abertawe rydym yn credu mai ein gweithlu yw ein caffaeliad mwyaf, a byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth cywir ac amgylchedd gweithio cadarnhaol er mwyn darparu gofal cymdeithasol eithriadol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn ymgymryd â rôl heriol ond gwerth chweil ac yn gwerthfawrogi'r gwytnwch y maen nhw'n ei ddangos drwy oresgyn heriau o ddydd i ddydd. Bydd Uwch Weithwyr Cymdeithasol yn ein Timau Cynllunio Gofal â Chymorth yn gyfrifol am reoli cynllunio risg a gofal i'n plant sy'n destun cynlluniau plentyn sydd angen gofal a chymorth, cynlluniau amddiffyn plant a'r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.

Uwch Weithiwr Arweiniol (dyddiad cau: 08/06/23)

£36,298 - £40,478 y flwyddyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Gwasanaeth Cymorth Cynnar ac yn cymryd rhan mewn strwythur canolfan amlddisgyblaethol sy'n gyfrifol am ddiwallu anghenion lles pobl ifanc sy'n agored i niwed ac mewn perygl, a'u teuluoedd. R֧ôl dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2025.

Rheolwr Strategaeth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg (dyddiad cau: 09/06/23)

£32,020 - £35,411 y flwyddyn. Mae'n falch gennym gyhoeddi cyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig a deinamig weithio fel rhan o Dîm Trawsnewid Gorllewin Morgannwg. Dros dro tan fis Mawrth 2025.

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (dyddiad cau: 11/06/23)

£113,003 - £128,010 y flwyddyn (pro rata). Rhan Amser. Fel aelod allweddol o'n tîm rheoli corfforaethol byddwch yn cyfrannu'n weithredol at arweinyddiaeth strategol y Cyngor ac yn sicrhau llwyddiant ein rhaglen Strategol Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd ac yn cefnogi Strategaethau Cyfathrebu, Digidol a'r Gweithlu.

Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd (dyddiad cau: 11/06/23)

£77,947 - £95,475 y flwyddyn. Gwahoddir ceisiadau am y rôl gyffrous a heriol hon i ddarparu arweinyddiaeth strategol er mwyn cyflenwi Tai a Gwasanaethau Cyhoeddus blaengar ar gyfer dinas Abertawe.

Swyddog Clerigol Tîm x 3 (dyddiad cau: 13/06/23)

£22,369 - £23,194 y flwyddyn. Daeth y cyfle i ni hysbysebu am 3 Swyddog Clerigol Tîm o fewn maes ein Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Swyddi llawn amser 37 awr a chontractau dros dro yw'r rhain hyd at 31 Mawrth 2025.

Swyddog Clerigol Tîm (dyddiad cau: 13/06/23)

£22,369 - £23,194 y flwyddyn. Mae'r cyfle wedi codi i ni hysbysebu am Swyddog Clerigol Tîm yn ein maes Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mae hon yn swydd amser llawn 37 awr ac mae'n gontract dros dro tan 31 Mawrth 2025.

Cynorthwyydd Gweinyddu (dyddiad cau: 14/06/23)

£22,369 - £23,194 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gweinyddu i ddarparu cefnogaeth briodol i feysydd gweithredol o fewn Gwastraff. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio o fewn tîm gweinyddol ac ariannol, gorau oll os o fewn Cyngor.

Cydlynydd Ardal Leol (dyddiad cau: 14/06/23)

£32,020 - £35,411 y flwyddyn. Rydym yn recriwtio Cydlynydd Ardal Leol ar gyfer ardal y Clâs a Llangyfelach. Mae'r swydd yn gytundeb dros dro ar gyfer cyfnod mamolaeth hyd at fis Mawrth 2024.

Gweinyddwr yr Oriel (dyddiad cau: 15/06/23)

£24,054 - £26,845 y flwyddyn. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn un o brif orielau celf cyhoeddus Cymru. Rydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr Oriel i ymuno â'n tîm ymroddedig a phroffesiynol i weithio mewn amgylchedd prysur a chreadigol. Swydd a rennir, gan weithio 3 diwrnod yr wythnos ydy hon.

Rheolwr Strategol Diwylliant a Thwristiaeth (dyddiad cau: 16/06/23)

£51,649 - £55,919 y flwyddyn Cyfle cyffrous yn un o'r dinasoedd arfordirol mwyaf deniadol ac ardal o harddwch naturiol eithriadol yn y DU, sydd ar hyn o bryd yn profi adfywiad a buddsoddiad sylweddol.

Cynorthwyydd Arddangosfeydd (dyddiad cau: 23/06/23)

£22,369 - £23,194 y flwyddyn. Mae oriel Gelf Glynn Vivian yn edrych i benodi Cynorthwyydd Arddangosfeydd i dîm yr Oriel. Fel oriel gyhoeddus allweddol yng Nghymru, mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm proffesiynol ac ymroddedig.

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau:15/08/23)

Gradd 8, £35,411 y flwyddyn (newydd gymhwyso), Gradd 9 £36,298 - £40'478 y flwyddyn (cymwysedig). Yn Abertawe credwn mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir a'r amgylchedd gwaith cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn ymgymryd â rôl heriol ond gwerth chweil ac yn gwerthfawrogi'r gwydnwch a ddangosant drwy oresgyn heriau bob dydd. Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Timau Cynllunio Gofal â Chymorth yn gyfrifol am reoli cynllunio risg a gofal ar gyfer ein plant sy'n destun cynlluniau plant sy'n derbyn gofal a chymorth plant, cynlluniau amddiffyn plant ac Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn dibynnu ar brofiad unigol.

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (dyddiad cau: 20/06/23)

£24,054 - £26,845 y flwyddyn (pro-rata). Mae'r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff am benodi Cynorthwy-ydd Gweinyddol rhan-amser am 17.5 awr yr wythnos. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio o fewn tîm gweinyddol ac ariannol, yn ddelfrydol o fewn Cyngor.

Hebryngwr Croesfan Ysgol (dyddiad cau: 31/03/2024)

£20,812 pro rata (£10.79 p/h). Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn a pherson ifanc a bydd yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Felly, ar hyn o bryd rydym yn bwriadu recriwtio Hebryngwyr Croesfannau Ysgol mewn gwahanol leoliadau yn Abertawe i ddarparu croesfan fwy diogel i blant ac oedolion sy'n mynychu sefydliad addysg.

Peiriannydd Prosiectau ac Arloesi Digidol (dyddiad cau: 07/06/23)

£32,020 - £35,411 y flwyddyn. Mae Gwasanaethau Digidol yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig i gymryd rôl Peiriannydd Prosiectau ac Arloesi Digidol.

Gweithiwr Cymorth Dyddiol (dyddiad cau: 07/06/23)

£22,369 - £23,194 y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Gellifedw yn chwilio am berson llawn cymhelliant, brwdfrydig a gofalgar i weithio o fewn Gwasanaeth Dydd sydd wedi hen ennill ei blwyf.

Dadansoddwr Datrysiadau Oracle Fusion (dyddiad cau: 13/06/23)

£32,020 - £35,411 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaethau Digidol yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig i ymgymryd â rôl Dadansoddwr Oracle Fusion. Ar hyn o bryd mae hon yn secondiad/rôl dros dro tan 31 Mawrth 2024

Swyddog Cymorth Prosiect (dyddiad cau: 13/06/23)

£22,369 - £23,194 y flwyddyn. Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024 yn Nhîm Hawliau Lles yr Uned Trechu Tlodi.

Swyddog Hyfforddiant a Chymorth (dyddiad cau: 14/06/23)

£27,852 - £31,099 y flwyddyn. Mae hon yn rôl unigryw a fyddai'n apelio at unigolyn hyderus, rhagweithiol gyda sgiliau lluosog, a allai fentro i ddatblygu'r rôl ac ymchwilio i'w holl bosibiliadau.

Cynghorydd Tîm Cymorth Taliadau Uniongyrchol (dyddiad cau: 15/06/23)

£24,054 - £26,845 y flwyddyn. Rydym yn awyddus i recriwtio Cynghorydd Tîm Cymorth Taliadau Uniongyrchol. Mae hon yn swydd wyneb yn wyneb â'r cyhoedd sy'n rhoi boddhad a phleser mawr yn weithio mewn tîm sy'n ehangu sy'n rhoi cymorth agos i dderbynwyr taliadau uniongyrchol newydd a chyfredol. Swydd dros dro am 12 mis yw hon.

Gyrrwr/Cynorthwy-ydd Teithwyr/tasgmon x 4 (dyddiad cau: 15/06/23)

£21,575 - £21,968 y flwyddyn (pro-rata). Hyd at 37 awr yr wythnos Mae'r depo Cludiant Cleientiaid yn Fforestfach yn defnyddio tua 60 o gerbydau. Diwrnod nodweddiadol o ran gwasanaethau fyddai cludo defnyddwyr gwasanaeth, a allai fod yn Oedrannus, ag Anabledd Corfforol neu Anabledd Dysgu, i un o nifer o leoliadau o fewn ffiniau Cyngor Abertawe.

Swyddog Gwasanaeth Dydd (dyddiad cau: 16/06/23)

£24,054 - £26,845 y flwyddyn pro-rata. Mae Gwasanaeth Dydd Iechyd Meddwl CREST am benodi unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a gofalgar i weithio o fewn Gwasanaeth sydd wedi hen ennill ei blwyf fel Swyddog Gwasanaeth Dydd parhaol. Mae hon yn swydd 21.50 awr yr wythnos, yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rheolwr Strategol y Celfyddydau a Diwylliant (dyddiad cau: 07/07/23)

£51,649 - £55,919 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am weithiwr diwylliannol proffesiynol ac arweinydd ysbrydoledig i oruchwylio datblygu a chyflenwi rhaglenni celfyddydol a diwylliannol yn Abertawe.

Swyddog Gwasanaeth Dydd (dyddiad cau: 21/06/23)

£24,054 - £25,845 pro rata y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Dydd Iechyd Meddwl CREST yn awyddus i benodi person brwdfrydig, llawn cymhelliant a gofalgar i weithio o fewn Gwasanaeth sydd wedi hen sefydlu yn rôl Swyddog Gwasanaeth Dydd parhaol. Mae hon yn swydd 30 awr yr wythnos, yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Close Dewis iaith