Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Gwasanaeth Cymorth i Weithwyr rheng flaen (dyddiad cau: 18/08/25)

£26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn. Rhan amser (15 awr yr wythnos) Mae Education Cleaning yn hysbysebu am swyddog cymorth/monitro rheng flaen i helpu i ddarparu'r ddarpariaeth glanhau i ysgolion Abertawe.

Teitl y swydd: Swyddog Gwasanaeth Cymorth i Weithwyr rheng flaen
Rhif y swydd: ED.68071
Cyflog: £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gwasanaeth Cymorth Cyflogeion Rheng Flaen (ED.68071) Disgrifiad Swydd (PDF, 328 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.68071

Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Awst 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae Education Cleaning yn ceisio cyflogi swyddog cymorth/monitro rheng flaen sydd â phrofiad yn y busnes glanhau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r tîm rheoli i ddarparu a monitro'r gwasanaeth glanhau ar draws ysgolion Abertawe. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn yrrwr car gyda defnydd o'u car eu hunain.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2025