Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Seicolegydd Addysg Locwm (llawn-amser neu ran-amser)

Yn sgil galw cynyddol, mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Abertawe (EPS) yn chwilio am seicolegydd addysg locwm (LEP).

Mae'r gwaith yn seiliedig yn bennaf mewn ardaloedd penodol, gan gwmpasu'r ystod oedran 0-25, ac mae'n debygol o fod ar gael tan ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.

Er mai gwaith dros dro yw hwn, mae'n debygol y bydd angen gwasanaethau LEP ar y Gwasanaeth yn rheolaidd ac felly rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw LEP a allai fod â diddordeb mewn datblygu perthynas waith hyblyg, barhaus.

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn dîm sefydledig sy'n gallu cynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i LEP.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y gwaith hwn mae cofrestriad presennol fel seicolegydd addysg gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn hanfodol.

Mae'r Gwasanaeth yn gwahodd unrhyw LEP sydd â diddordeb ac sydd wedi cofrestru â'r HCPC i gysylltu'n uniongyrchol i drafod ac am fanylion pellach am delerau ac amodau:

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Close Dewis iaith