Cynorthwyydd Cegin (dyddiad cau: 26/08/25)
£25,185 pro rata y flwyddyn. Rhan amser (17 awr yr wythnos). Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cegin brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Lletygarwch profiadol o fewn Gwasanaeth Ailalluogi Tŷ Bonymaen sy'n arwain y sector.
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Cegin
Rhif y swydd: SS.2127
Cyflog: £25,185 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynorthwyydd Cegin (SS.2127) Disgrifiad Swydd (PDF, 289 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.2127
Dyddiad cau: 11.45pm, 26 Awst 2025
Rhagor o wybodaeth
Ai chi yw'r person rydyn ni wedi bod yn chwilio amdano? Allech chi fod yn rhan o'n tîm llwyddiannus a chyfeillgar?
- Ydych chi'n berson llawn cymhelliant a brwdfrydig?
- Oes gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd cegin?
- Ydych chi'n wybodus am fwyd a maeth?
- Ydych chi'n ymfalchïo yn eich amgylchedd?
- Allech chi rannu eich gwybodaeth a'ch profiad?
- Ydych chi'n berson pobl ac a ydych chi'n mwynhau gweithio gydag eraill?
- A yw helpu i wneud pobl yn hapus, yn bwysig i chi?
- Ydych chi'n berson caredig, gofalgar/cyfeillgar a meddylgar?
Ydych chi'n meddwl bod hyn yn swnio fel chi? Yna darllenwch ymlaen, efallai mai dyma'r swydd i chi!
Mae Cyfle Cyffrous wedi codi i weithio yn Nhŷ Bonymaen, gwasanaeth Gofal Preswyl yn ardal Bonymaen yn Abertawe, fel Cynorthwyydd Cegin.
Mae'r cartref yn cefnogi pobl ar gyfer ailalluogi ac asesu.
Y safon uchaf o gymorth ym mhob ardal yn y cartref yw'r pwysicaf, gan gynnwys y gefnogaeth a ddarperir gan aelodau ein tîm staff arlwyo, a fydd yn anelu at ddarparu'r prydau gorau i bobl, gan ddiwallu'r anghenion maeth amrywiol pan ofynnir amdanynt..
Oes gennych chi ddiddordeb ac yn meddwl am ymgeisio? Mae hwnna'n wych!
Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dim ond ychydig o bethau a allai fod yn bwysig i chi.
- Byddwch yn rhan o dîm.
- Byddwch yn cael eich cefnogi i wneud yr hyfforddiant cywir, gyda'r gefnogaeth gywir ac ennill y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol ar gyfer y rôl.
- Byddwch yn derbyn cyfnod sefydlu trylwyr a thâl sy'n cynnwys gweithio ochr yn ochr ag eraill o fewn y tîm a fydd yn eich helpu i ddysgu am y rôl.
- Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu ar hyd y ffordd, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi yn eich rôl newydd.
- Mae buddion eraill yn cynnwys y gyfradd gyflog ardderchog gyda gwelliannau ynghlwm ar gyfer gweithio gyda'r nos ar y penwythnos a gŵyl y banc, yn ogystal â hawl gwyliau blynyddol rhagorol.
- Bydd gennych batrwm Shift ar sail rota, y gellir ei drafod gyda chi i'ch galluogi i gael cydbwysedd bywyd gwaith da..
Cyn i chi wneud cais ar-lein - gallwch drafod y rôl gyda Linda y Rheolwr neu Vicky Rheolwr Cynorthwyol -drwy e-bost Linda.price@Swansea.gov.uk neu dros y ffôn ar - 01792 773106
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol