Prynwr (dyddiad cau: (09/05/24)
£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm prynu yn yr Adran Gwasanaethau Adeiladu brysur iawn sydd wedi'i lleoli yn y depo yn Heol y Gors Cwmbwrla Abertawe.
Teitl y swydd: Prynwr
Rhif y swydd: PL.63568
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Prynwr (PL.63568) Disgrifiad swydd (PDF)
[220KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.63568
Dyddiad cau: 11.59pm, 9 Mai 2024
Mwy o wybodaeth
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fewnbynnu a chodi archebion gyda chyflenwyr drwy system Oracle y cyngor, cwblhau trafodion cerdyn Prynu a sicrhau bod yr holl waith papur yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf.
Cysylltu â chyflenwyr ac â'n rheolwyr safle ein hunain er mwyn trefnu dosbarthu archebion i safleoedd. Defnyddio a hyrwyddo'r defnydd o archebion electronig ym mhob adran sy'n gleientiaid.
Cysylltu â'r adran cyfrifon taladwy ar gyfer talu anfonebau, a gweithio yn unol â rheolau gweithdrefn contract a chyfyngiadau ariannol cyfredol yr awdurdod.
Meddu ar sgiliau gweinyddol a sgiliau swyddfa da.
Mae'r rôl hon yn gofyn am brofiad TG rhagorol a sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da. Bydd yr ymgeisydd yn ymwneud yn helaeth â gweithio gyda chwsmeriaid o wahanol grefftau felly mae deall anghenion cwsmeriaid yn hollbwysig.
Yr oriau gwaith yw 8am-4pm dydd Llun i ddydd Iau ac 8am-3:30pm ar ddydd Gwener.
Dyma gyfle cyffrous i weithio i Gyngor Abertawe ym maes Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol