Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen : Dirprwy Bennaeth
Dyddiad Cau: (10/05/24) (12:00pm) Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen. Ystod oedran: 3-11oed. YCU: L6 - L10. Cytundeb: Parhaol. I ddechrau Medi 2024 neu cyn gynted â phosib wedi hynny. Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd
Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen
Heol Gellionnen
Clydach
Abertawe
SA6 5HE
Pennaeth / Headteacher: Mr K Davies
Ffôn/Telephone: 01792 845489
e-bost/e-mail: 6702232_ygggellionnen@hwbcymru.net
Dymuna'r Corff Llywodraethol benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol lwyddiannus hon.
Oherwydd ymddeoliad deiliad y swydd flaenorol, mae'r Pennaeth a Chorff Llywodraethol yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth gwybodus ac ymroddedig i weithio fel rhan o dîm uchel ei gymhelliant i symud yr ysgol lwyddiannus hon ymlaen yn y cam nesaf yn ei datblygiad.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion ymroddedig sydd:
- yn meddu ar ddawn addysgu ardderchog
- â sgiliau arwain a chymell cadarn, cynhwysol ac effeithiol gyda phrofiad o gyflwyno gwelliannau ysgol gyfan.
- yn gallu ysgogi ac ysbrydoli pob aelod o staff yn yr ysgol
- â phrofiad o sicrhau atebolrwydd ar bob lefel
- yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
- wedi ymroi i'w datblygiad personol eu hunain fel arweinydd y dyfodol.
- yn wybodus am ddatblygiadau cwricwlaidd gan gynnwys strategaethau i gryfhau safonau.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Pennaeth Mr K Davies os gwelwch yn dda ar 01792 845489 neu drwy e-bost: 6702232_ygggellionnen@hwbcymru.net
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Gofynnwn i ymgeiswyr i ddychwelyd ei ffurflenni cais drwy e-bost i glerc y Llywodraethwyr
rhysaeronjones@gmail.com
Ffurflen gais - pennaeth a'r dirprwy bennaeth (Word doc) [102KB]
Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen : Dirprwy Bennaeth (PDF) [242KB]
Disgwylir i ymgeiswyr roi sylw penodol i ofynion manyleb y swydd gan gadw eu ceisiadau o fewn 2,000 o eiriau.
Cyfle i Ymweld â'r ysgol: Dydd Mercher 8 Mai 2024, 4pm - 5pm
Cysylltwch â nia.ward@swansea.gov.uk i ddatgan eich bwriad i fynychu.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Mai 2024 (Canol Dydd)
Rhestr fer: Dydd Gwener 17 Mai 2024
Tasg Addysgu a chyfarfod Cyngor yr Ysgol: Dydd Llun 20 Mai 2024
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 21 Mai 2024