Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithiwr Cyswllt Teulu (dyddiad cau: 08/05/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn. A oes gennych chi brofiad o weithio gyda phlant? Ydych chi'n berson gofalgar? Ydych chi'n gefnogol ac yn anfeirniadol?

Teitl y swydd: Gweithiwr Cyswllt Teulu
Rhif y swydd: SS.62329
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Gweithiwr Cyswllt Teulu (SS.62329) Disgrifiad swydd (PDF) [306KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.62329-V2


Dyddiad cau: 11.59pm, 8 Mai 2024

Mwy o wybodaeth

 Mae Cyngor Abertawe yn awyddus i benodi Gweithwyr Cyswllt Teulu i'w Tîm Cefnogi Plant a Theuluoedd. Mae nifer o swyddi rhan-amser a llawn-amser ar gael. 
 
Eich prif nod fel Gweithiwr Cyswllt Teulu fydd darparu sesiynau amser teulu o safon i'r plant a'r teuluoedd sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Plant. Byddwch yn goruchwylio sesiynau rhwng oedolion penodol a phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed sylweddol, pan fo gofyniad cyfreithiol i wneud neu pan fo angen diogelu lles emosiynol, cymdeithasol neu gorfforol plentyn, yn ogystal â chefnogi teuluoedd i ddatblygu sgiliau magu plant. 
 
Er mwyn i'r sesiynau amser teulu gyrraedd y safon ddisgwyliedig, bydd angen i chi feithrin perthynas barchus gyda'r rhieni, y plant, a'u teuluoedd, a hynny trwy adnabod peryglon a thrwy leihau unrhyw risgiau i'r plant, yn unol â'r gweithdrefnau amddiffyn plant a diogelu. Mae meithrin perthnasau cadarnhaol a pharchus gyda theuluoedd, gwrando ar blant, a sicrhau eu bod yn rhan o benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud yn Abertawe. 
 
A ydych chi wedi gweithio ym maes gwarchod plant o'r blaen? Wedi bod yn weithiwr meithrin? Yn gynorthwyydd dosbarth? A oes gennych ddealltwriaeth o weithio gyda phlant? Gallai'ch sgiliau chi fod yn wych mewn swydd lle byddwch yn gyfrifol am gynnal amgylchedd glan a diogel sy'n dangos ein bod yn parchu a'n gwerthfawrogi ein teuluoedd, amgylchedd sy'n creu cyfleoedd i blant ddatblygu ac sy'n sicrhau bod y sesiynau cyswllt yn brofiadau cadarnhaol.  
 
Byddwch yn cwrdd â theuluoedd o bob mathau o gefndiroedd, bydd angen i chi fod yn gadarn, yn sensitif i'r amgylchedd, a bydd angen sicrhau eich bod yn cynnal ffiniau proffesiynol. Rhan fawr o'r gwaith fydd creu adroddiadau cywir, ffeithiol a chryno. I wneud hyn, byddwch angen gallu defnyddio cyfrifiadur, byddwch angen sgiliau TG da, yn ogystal â sgiliau trefnu a chyfathrebu gwych.  
 
Mae gennym weledigaeth glir iawn yn Abertawe, gweledigaeth y mae'r gweithlu presennol yn ei deall yn dda, sef y dylai plant aros yng ngofal eu teuluoedd genedigol pan fo'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Signs of Safety yw ein fframwaith ymarfer ac rydym wedi defnyddio'r model Adennill Gwaith Cymdeithasol er mwyn ffurfio grwpiau cynllunio gofal â chefnogaeth, a hynny dan arweiniad Arweinydd Ymarfer. Mae hyn yn cefnogi goruchwyliaeth a chydweithredu rhwng staff. 
 
Dyma swydd o fewn tîm sydd wedi hen ennill ei blwyf, ac fe gewch hyfforddiant, cefnogaeth a mentoriaeth lawn. Os ydych chi'n credu y gallech ffynnu yn y swydd hon, ac os ydych chi'n frwd dros gefnogi teuluoedd i fod cystal ag y gallant fod, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.  
 
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Jo Stockting neu Claire Morgan, Cydlynwyr Cyswllt Teulu trwy ffonio 01792 564101. 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith