Swyddog Cymdogaeth (dyddiad cau: 09/05/24)
£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Tai i weithio fel Swyddog Cymdogaeth mewn Swyddfa Dai Ardal. Mae hon yn rôl sy'n golygu delio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, gan gefnogi, helpu a chynghori tenantiaid a phreswylwyr ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thenantiaeth tai a rheoli ystadau. Cyfle i wneud gwahaniaeth o fewn cymunedau.
Teitl y swydd: Swyddog Cymdogaeth
Rhif y swydd: PL.0177-V1
Cyflog: £29,777 - £33,024 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Swyddog Cymdogaeth (PL.0177-V1) Disgrifiad swydd (PDF)
[229KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0177-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 9 Mai 2024
Mwy o wybodaeth
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm hunangymhellol, ymroddedig a dibynadwy i weithio mewn Tîm Swyddfa Dai Ardal prysur. Bydd angen
i chi gydbwyso agweddau cymorth a chyngor y swydd ag elfennau gorfodi mewn perthynas â thelerau ac amodau'r contract meddiannaeth; bydd hyn yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Byddwch yn gyfrifol am ddyrannu a gosod eiddo gwag. Mae'r gallu i amldasgio a threfnueich blaenoriaethau gwaith eich hun yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Bydd lefel uchel o ryngweithio â chwsmeriaid, sy'n cynnwys ymweld â phobl yn eu cartrefi yn ogystal â gweld pobl yn y swyddfa, a gall ymddygiad unigolion fod yn heriol weithiau.
Blaenoriaeth i'r Gwasanaeth Tai yw cefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth. Bydd disgwyl i chi fod yn wyneb y gymuned, bod allan yn ddyddiol yn eich ardal, ymweld â phobl yn eu cartrefi, a chefnogi cydweithwyr yn eu hardaloedd. Mae cyswllt yn elfen allweddol o'r rôl, a bydd disgwyl i chi weithio gydag ystod o bartneriaid; bydd hyn yn cynnwys cydweithwyr yn y Gwasanaeth Tai, adrannau eraill y Cyngor a phartneriaid allanol fel yr Heddlu.
Mae gwybodaeth bresennol am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn fanteisiol ond nid yn hanfodol; fodd bynnag, mae'n rhaid i chi allu dilyn a dehongli canllawiau a bod ag ymagwedd gyson o ran sut maent yn cael eu cymhwyso.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn llawn cymhelliant sydd am wneud gwahaniaeth o fewn cymuned drwy gynnig cymorth a chefnogaeth i bobl pan fyddant ei angen fwyaf.
Mae'n hanfodol bod gennych drwydded yrru gyfredol, yswiriant defnyddiwr busnes priodol a mynediad i'ch cerbyd eich hun.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol