Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cynlluniau gwella priffyrdd diweddaraf yn cael eu cyhoeddi yn Abertawe

Mae timau cynnal a chadw priffyrdd yn Abertawe'n dechrau'r flwyddyn newydd gyda chyfres o gynlluniau gwella ffyrdd a fydd yn dechrau cyn bo hir.

road resurfacing

Mae rhaglen cynnal a chadw barhaus Cyngor Abertawe ar gyfer 2024/25 yn parhau a bydd ffyrdd allweddol yn cael eu hailwynebu fel rhan o fuddsoddiad gwerth £8.1 filiwn mewn atgyweiriadau ffyrdd.

Mae'r cyllid wedi'i ddosbarthu ar draws nifer o raglenni gwella priffyrdd gwahanol gan gynnwys cynlluniau ailwynebu mawr a chynlluniau ailwynebu bach lle mae timau'n mynd i'r afael â diffygion ffyrdd llai. Mae'r arian hefyd yn helpu i ariannu'r cynllun atgyweirio tyllau yn y ffordd.

Mae nifer o gynlluniau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror ar hyd prif ffyrdd ledled Abertawe.

Mae'r cynlluniau cyntaf i ddechrau'n cynnwys Valley Way - Llansamlet (rhwng y gyffordd â Fendrod Way a'r gyffordd yn Ferryboat Close). Bydd Swansea Road (cyffordd Hospital Road) hefyd yn cael ei hailwynebu.

Mae cynlluniau eraill i'w cwblhau'n cynnwys rhan o Carmarthen Road (y gyffordd â Ravenhill Road), Bethel Road - Llansamlet, Ceri Road - Townhill a Lime Street - Gorseinon.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae ein timau cynnal a chadw priffyrdd yr un mor brysur ar ddechrau'r flwyddyn newydd ag yr oeddent yn 2024. Bwriedir cwblhau nifer o gynlluniau gwella priffyrdd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

"Mae'r holl gynlluniau hyn wedi'u trefnu mewn perthynas ag archwiliadau priffyrdd parhaus rydym yn ymgymryd â nhw i asesu pa ffyrdd y mae angen eu hatgyweirio a'u gwella fwyaf.

Fel bob amser, mae ein criwiau'n bwriadu cwblhau'r cynlluniau gan darfu cyn lleied â phosib ar fodurwyr.

Mae criwiau tyllau yn y ffordd hefyd yn delio â nifer mawr o alwadau gan y cyhoedd sydd wedi rhoi gwybod i wasanaeth atgyweirio tyllau yn y ffordd 24 awr y Cyngor am ddiffygion.

Ers mis Ebrill 2024, mae'r timau tyllau yn y ffordd wedi llenwi mwy na 4,500 o ddiffygion, ac atgyweiriwyd y rhan fwyaf o fewn y 48 awr a addawyd gan y Cyngor."

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae'r cyhoedd wedi chwarae rhan enfawr drwy roi gwybod i'r Cyngor am dyllau yn y ffordd. Ni ellir disgwyl i ni wybod ble mae pob twll yn y ffordd yn y ddinas a gall llawer o ddiffygion ddigwydd dros nos os yw arwynebau ffyrdd yn mynd yn frau.

Rwy'n fodlon iawn ar ein hymateb i'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi i ni gan y cyhoedd ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu cynnal a chadw i'r lefel uchaf bosib."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Ionawr 2025