CYHOEDDI ENILLYDD!
Mae Grŵp Cydweithredol Grand Ambition Abertawe wedi uno â Chymdeithas Drama Gymraeg Abertawe a Chyngor Abertawe i lansio Cystadleuaeth Ysgrifennu Drama Gymraeg o'r enw GRANDRAMODI.


Gofynwyd i ymgeiswyr gyflwyno 10 tudalen o sgript wreiddiol gyda dim mwy na 4 cymeriad. Darllenwyd pob cais gan 5 beirniad proffesiynol, Ioan Hefin, Manon Eames, Steffan Rhodri, Rhian Morgan a Llinos Daniel a derbynion nhw'r her anodd o ddewis rhestr fer o 5 drama. Cyhoeddwyd enillydd Cystadleuaeth Ysgrifennu Drama Gymraeg Grandramodi yn Theatr y Grand Abertawe ar Nos Wener 25ain Ionawr. Yr enillydd yw NONI LEWIS gyda'i drama 'Cysur Dychymyg Creulon'. Bydd yn derbyn blwyddyn o fentora gan y dramatwrg, awdur, actores Manon Eames ynghyd â gwobr ariannol o £5000.
Dywed un o'r beirniaid, actor, awdur, Manon Eames:
"Roedd safon y ceisiadau'n hynod uchel, wnaeth ein gwaith ni fel beirniaid yn bleser wrth eu darllen nhw i gyd, a hefyd yn her - roedd hi'n anodd dewis rhestr fer, ac yna enillydd hefyd. Cwmpasodd y ceisiadau rychwant eang o syniadau, arddulliau a themau, llawer o wreiddioldeb, a chyfran anferth o botensial. Bydd yn gyffrous iawn gweithio gyda Noni wrth iddi barhau i saernio a datblygu'i drama. Llongyfarchiadau i Noni, i'r ymgeiswyr eraill i gyd, ac i Grand Ambition a'r Gymdeithas wrth drefnu digwyddiad mor lwyddiannus"
Meddai Geraint Davies, Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe:
" Braf cyd-weithio â Grand Ambition wrth ail-gydio yn yr hen gysylltiad â Theatr y Grand ac ar yr un pryd edrych ymlaen i'r dyfodol mewn partneriaeth newydd sbon. A llongyfarchiadau i Noni ar ei champ"
Dywed Michelle McTernan, Cyfarwyddwr cwmni Grand Ambition:
"Cawsom ein syfrdanu gan safon uchel ymgeisiadau Grandramodi. Mae ond yn profi i ni bod yma dalent eithriadol yn Abertawe a'r angen hefyd am Gelfyddyd Gymraeg yma. Roedd Theatr Gymraeg yn ffynnu yn Abertawe ddegawdau'n ôl. Ein bwriad ni yw dathlu'r Gymraeg o fewn diwylliant creadigol yma yn Abertawe a'i dychwelyd i'n llwyfannau, gan greu mwy o gyfleon hygyrch i siaradwyr Cymraeg o fewn y diwydiant creadigol. Ry'n ni wrth ein bodd o gael cydweithio â Chymdeithas Drama Gymraeg Abertawe; mae'r holl broses wedi bod yn gyffrous iawn. Rhaid inni hefyd ddiolch i Wasanaethau Celfyddydol Cyngor Abertawe am eu cefnogaeth. Ry'n ni wrth ein bodd dros Noni ac yn edrych ymlaen at sut bydd hi a'i drama'n datblygu"
Dywedodd Elliott King Aelod Cabinet - Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb:
" Mae hwn yn gywaith ysbrydoledig rhwng Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe a Grand Ambition. Mae'n nodi moment gyffrous i'r ddrama Gymraeg yn Abertawe - yn anrhydeddu traddodiad cyfoethog tra'n edrych tua'r dyfodol. Am genedlaethau, mae Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi theatr Gymraeg. Gyda Grandramodi, bydd yr etifeddiaeth hwnnw'n parhau i ffynnu.Wrth feithrin a hybu ysgrifennu newydd Cymraeg, mae Grandramodi'n ysbrydoli creadigrwydd, yn rhoi cyfle i leisiau ffres, yn hybu cydraddoldeb a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae'n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i chwarae rhan ddeinamig a gweledol yn ein hunaniaeth celfyddydol. Mae'r achlysur hwn yn destament i gryfder cydweithio - dod â chyrff, unigolion a meddyliau creadigol at ei gilydd i greu rhywbeth ystyrlon a grymus. Mae Cyngor Abertawe'n parhau a'i ymrwymiad i gefnogi Theatr y Grand, Grand Ambition a mentrau fel hyn, sy'n sicrhau bod celfyddyd yn dal i gyfoethogi bywydau a chryfhau hunaniaeth Abertawe fel dinas fywiog, cydweithredol a chreadigol"