Y Cyngor yn galw ar y cyhoedd i ymuno â'r tîm glanhau traethau tymhorol
Cynigir cyfle i bobl dreulio amser yn rhai o leoliadau mwyaf atyniadol Abertawe ar brynhawniau yn y gwanwyn a'r haf - a chael eu talu am wneud hynny.
Mae Cyngor Abertawe'n recriwtio 13 o weithredwyr glanhau tymhorol a fydd yn gyfrifol am helpu i gadw rhai o'n lleoliadau twristaidd mwyaf poblogaidd yn lân yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.
Bydd y swyddi tymhorol yn para am chwe mis o fis Ebrill i fis Medi, sef cyfnod prysuraf y flwyddyn ar gyfer ymweliadau â thraethau fel Bae Langland, Bae Abertawe, Bae Caswell a Phorth Einon. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'u ceisiadau erbyn 24 Chwefror.
Gweithredydd Glanhau Tymhorol (dyddiad cau: 24/02/25) - Abertawe
Mae'r ymgyrch recriwtio'n rhan o ymrwymiad Cyngor Abertawe i gadw cyrchfannau'r haf yn lân ac yn daclus ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan ddilyn ymgyrch lwyddiannus y llynedd pan lansiodd y cyngor y cynllun recriwtio tymhorol am y tro cyntaf.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, fod angen i bawb wneud cyfraniad drwy roi sbwriel yn y bin neu drwy fynd ag ef adref.
"Mae gennym rai o'r mannau harddaf yng Nghymru ac rydym am eu cadw'n lân yn ystod yr haf. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cyfraniad, gan hefyd fwynhau'r golygfeydd eu hunain wrth iddynt weithio.
"Gwnaethom lansio'r cynllun glanhau tymhorol y llynedd ac roedd llawer o ddiddordeb gan aelodau'r cyhoedd a oedd am fod yn rhan o'r tîm. Rydym yn gobeithio y bydd diddordeb tebyg eleni mewn ymuno yn y gwaith o helpu i gadw ein traethau hyfryd yn lân ac yn daclus."
Mae'r cyngor hefyd wedi galw ar ymwelwyr â thraethau i wneud cyfraniad drwy ddefnyddio'r biniau sbwriel a ddarperir neu drwy fynd â'u sbwriel adref wrth adael ardaloedd traethau.
Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Mae'r cyngor yn cyfrannu at gadw'r traethau'n lân drwy recriwtio rhagor o staff i weithio gyda'r hwyr drwy gydol cyfnod prysur y Pasg a'r haf. Ond rydym am i ymwelwyr wneud yr un peth, yn enwedig pan fyddant yn mynd â biniau barbeciw tafladwy i'r traeth.
"Gall biniau barbeciw tafladwy beri risg go iawn i ddiogelwch plant, yn enwedig os bydd pobl yn eu claddu yn y tywod. Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn ydyw, peidiwch â gollwng sbwriel pan fyddwch yma ac acw. Ewch ag ef adref."