Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb i gynlluniau cerdded a beicio yn Abertawe

Mae llwybr cerdded a beicio poblogaidd drwy ddyffryn gwyrdd atyniadol yn Abertawe'n cael ei uwchraddio.

cycling stock pic

Mae Cyngor Abertawe'n lledu'r llwybr cerdded presennol drwy Ddyffryn Clun fel rhan o gyfres o welliannau sy'n cael eu gwneud yn ystod y misoedd nesaf.

Mae cyllid gwerth £1.4m, a roddwyd i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llwybr newydd ar hyd Walter Road/Sketty Road, wedi cael ei arallgyfeirio i nifer o gynlluniau cerdded a beicio eraill yn y ddinas.

Mae'r gwelliannau'n cynnwys mwy na £680,000 tuag at ledu'r llwybr presennol yn Nyffryn Clun, rhwng Blackpill a Chilâ.

Mae £195,000 arall wedi cael ei ailddyrannu i'r cynllun cyswllt glan afon a bydd yn helpu i ariannu gwaith i ailwynebu a lledu llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhwng Brunel Way a safle parcio a theithio Glandŵr.

Mae cyllid ychwanegol hefyd yn helpu i ddatblygu cynigion ar gyfer llwybr newydd rhwng Casllwchwr a Thregŵyr.

Bydd llwybr presennol yn Nhregŵyr hefyd yn cael ei ailwynebu gyda chroesfannau gwell i gerddwyr yn Ffordd Beck.

Bydd gweddill y grant yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau beicio a cherdded eraill, gan gynnwys darparu hyfforddiant beicio mewn ysgolion cynradd.

Gwneir gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd hefyd drwy greu croesfan newydd i gerddwyr ar Newton Road a gwella croesfannau i gerddwyr ar Queens Road, y Mwmbwls.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Gwnaethom gymryd y penderfyniad i ohirio ein cynlluniau ar gyfer llwybr cerdded a beicio ar hyd Walter Road a Sketty Road.

"Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weld sut gallai Abertawe gadw'r cyllid hwnnw, yn y gobaith o'i fuddsoddi mewn isadeiledd cerdded a beicio arall ar draws y ddinas.

"Mae llawer o waith wedi cael ei wneud mewn cyfnod byr iawn i nodi nifer o gynlluniau y gallem fuddsoddi ynddynt.

"Mae gwaith eisoes wedi dechrau yn Nyffryn Clun, a byddwn yn gweithio'n galed i gwblhau'r gwaith sy'n ymwneud â llawer o'r cynlluniau rydym wedi eu cyflwyno."

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Chwefror 2025