Mwy o lety i'r digartref yn dod i Abertawe
Bydd hen orsaf heddlu yn Abertawe'n cael ei hailddatblygu'n llety dros dro mawr ei angen i bobl ddigartref.
Mae Cyngor Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â'r landlordiaid tai cymdeithasol, Pobl, i newid hen Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe sy'n adeilad rhestredig Gradd II yng nghanol y ddinas, yn llety â chymorth dros dro a fydd yn ddiogel ac yn fodern.
Mae Pobl wedi bod yn berchen ar yr adeilad, a elwir bellach yn Llys Glas, ers 2023 ac wedi bod yn ei gynnig fel llety myfyrwyr.
Gan nad yw'r adeilad bellach yn darparu llety i fyfyrwyr, yn ôl y cynlluniau diweddaraf caiff y tu mewn i'r adeilad ei ailddatblygu ymhellach gyda'r nod o greu 68 o ystafelloedd gyda chyfleusterau en-suite i'w rhoi i bobl sengl neu gyplau y nodwyd gan y Cyngor eu bod yn ddigartref.
Gobeithir y bydd y cynlluniau'n helpu i leihau dibyniaeth y Cyngor ar lety gwely a brecwast yn y ddinas i letya pobl ddigartref - rhywbeth sydd wedi bod yn cynyddu ers pandemig COVID yn 2020 a'i waethygu gan brinder mewn llety dros dro ar draws y ddinas.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae hwn yn gyfle gwych i'r Cyngor a Pobl weithio gyda'i gilydd a lliniaru cryn dipyn o'r pwysau rydym yn ei wynebu wrth fynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe.
"Mae'r ystadegau diweddaraf am ddigartrefedd yn Abertawe yn dangos ei fod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rydym wedi bod yn dibynnu'n fawr ar ddefnyddio darparwyr llety gwely a brecwast i letya pobl sy'n ddigartref. Mae hyn yn gostus ac yn rhywbeth rydym am gael gwared ag ef.
"Bydd y cynlluniau diweddaraf yn rhoi cyfle i ni ehangu ein darpariaeth tai â chymorth dros dro, gan ddarparu llety diogel a chyfforddus i bobl mewn angen.
"Byddwn hefyd yn gallu sicrhau bod y rheini sy'n cael eu lletya yn yr eiddo wedi'i ailddatblygu yn cael cymorth ar gyfer unrhyw anghenion ychwanegol pan fyddant yno, gyda'r nod o'u symud i dai mwy parhaol cyn gynted ag y bo modd."
Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r Cyngor wedi cwblhau datblygiadau newydd i helpu i liniaru pwysau digartrefedd, gan ddatblygu 24 o unedau llety yn Nhŷ Tom Jones, mewn partneriaeth â Pobl, yn ogystal â chreu 4 pod arloesol yn Nhŷ Bryn yn Uplands.
Ychwanegodd y Cyng. Lewis, "Rydym yn buddsoddi £55m mewn tai yn y flwyddyn ariannol hon, ac yn bwriadu buddsoddi £250 miliwn ychwanegol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae ein partneriaid sy'n gymdeithasau tai yn Abertawe fel Pobl, Coastal a Caredig hefyd yn ein helpu gyda'u heiddo a'u rhaglenni adeiladu.