Swyddog Gweinyddol (dyddiad cau: 24/07/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Rydym yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd gweinyddol o fewn y tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Teitl swydd: Swyddog Gweinyddol
Rhif Swydd: CS.73628
Cyflog: £25,584 -£26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gweinyddol (CS.73628) Disgrifiad swydd (PDF, 271 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73628
Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Gorffennaf 2025
Mwy o wybodaeth
Eich rôl fydd prosesu anfonebau, post sy'n dod i mewn ac allan, ffeilio swyddogaethau'r system, llungopïo a gweithio gyda system rheoli achosion electronig y Gwasanaethau Cyfreithiol.
Dylech fod yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant ac fel aelod o'r tîm hwn byddwch yn ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth lefel uchel i Is-adran Gwasanaethau Cyfreithiol prysur. Dylech feddu ar brofiad o weinyddiaeth gyffredinol yn ddelfrydol o fewn amgylchedd swyddfa gyfreithiol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol