Toglo gwelededd dewislen symudol

Gyrwyr X 2 (dyddiad cau: 19/06/25)

£24,790 -£25,183 pro rata y flwyddyn. Mae gan yr Uned Cludiant Cleientiaid swydd wag barhaol ar gyfer Gyrrwr. Mae'r swydd yn para 20 awr

Teitl swydd: Gyrwyr X 2
Rhif Swydd: PL.4912-V1
Cyflog: £24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gyrrwr (PL.4912-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 264 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.4912-V1


Dyddiad cau: 11.59pm, 19 Mehefin 2025

Mwy o wybodaeth

Mae'r depo Cludiant Cleientiaid yn Fforestfach yn gweithredu tua 60 o gerbydau. Un diwrnod arferol yn y gwasanaethau fyddai cludo defnyddwyr gwasanaeth, a allai fod yn Henoed, sydd ag Anabledd Corfforol neu Ddysgu, i un o nifer o leoliadau o fewn ffiniau Cyngor Abertawe. Byddai'r lleoliadau hyn yn cynnwys Canolfannau Dydd, Canolfannau Nos, amryw glybiau a chanolfannau hyfforddi.  Rydym hefyd yn danfon plant i'r ysgol ac oddi yno.  Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn cludo cleifion allanol i apwyntiadau ysbyty ac yn ôl mewn partneriaeth ag ABMU 

Mae ein fflyd yn cynnwys amrywiaeth o gerbydau sy'n cynnwys ceir a bysiau mini hygyrch o wahanol feintiau.  Fel Gyrrwr, bydd gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyda chategori D1 (cyfyngiad 101) neu drwydded PCV, yn dibynnu ar y cerbydau y byddech yn eu gyrru. 

Bydd gofynion y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am ddiogelwch a chysur ein defnyddwyr gwasanaeth yn ystod eu taith, am sicrhau bod cadeiriau olwyn a ddefnyddir yn cael eu sicrhau'n briodol ynghyd â chynorthwyo ar ac oddi ar ein cerbydau. 
Pan na fydd yn ymwneud â gyrru, bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo i gynnal gweithgareddau a chefnogi gyda gofal mewn canolfannau dydd a chlybiau. 

Mae cludiant yn rhan hanfodol o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. hebddo, ni fyddai rhai o'n defnyddwyr gwasanaeth yn gadael eu cartrefi, cwrdd â ffrindiau, dysgu sgiliau newydd yn ein canolfannau dydd a gallu mwynhau bywyd.

Os ydych chi'n chwilio am foddhad swydd, yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd dymunol, prysur, ac yn chwilio am waith sy'n heriol ac yn werth chweil, yna mae gweithio o fewn Trafnidiaeth Cleientiaid ar eich cyfer chi. Bydd yr oriau gwaith y gallwn eu cynnig o leiaf 20 awr yr wythnos 

Oherwydd gofynion ein gwaith, bydd yr 20 awr ar sail sifft ysgubol dros 5 diwrnod.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mehefin 2025