Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm newydd yn mynd i'r afael â sbwriel ar ochr y ffordd yn Abertawe

Mae tîm glanhau sbwriel newydd wedi'i sefydlu yn Abertawe mewn ymgais i fynd i'r afael â sbwriel ar ochr y ffordd.

Mae Cyngor Abertawe am glirio tunellau o sbwriel sydd ar hyd prif ffyrdd y ddinas, y credir bod llawer o'r sbwriel wedi'i daflu allan o ffenestri ceir modurwyr anghyfrifol.

Mae'r tîm Glanhau Ffyrdd Hir newydd yn gyfrifol am ymdrin â ffyrdd sy'n cysylltu'n gyffredinol rhwng cymunedau, ac yn amlach na pheidio, nid oes ganddynt balmentydd, sy'n ei gwneud hi'n anodd cyflawni dyletswyddau casglu sbwriel arferol yn ddiogel.

Bydd y tîm hefyd yn mynd i'r afael â llystyfiant a malurion cyffredinol sy'n ymgasglu o amgylch yr ynysoedd traffig a'r cylchfannau niferus yn Abertawe, a bydd yn ategu'r tîm Priffyrdd presennol sydd eisoes yn cyflawni swyddogaethau tebyg ar ffyrdd cyflymach a risg uwch a ffyrdd deuol Abertawe.

Un ffordd sydd eisoes yn elwa o'r gwasanaeth newydd hwn yw'r ffordd rhwng y Glais a Gellifedw, lle mae tua hanner tunnell o sbwriel wedi'i gasglu o ochr y ffordd, ymylon glaswellt a gwrychoedd.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae'r cyngor yn casglu sbwriel ledled y ddinas yn ddyddiol ac yn wythnosol, yn enwedig mewn mannau cyhoeddus prysur.

"Nid yw'r llwybrau rydym yn eu targedu fel rhan o'r cynllun clirio sbwriel diweddaraf hwn yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel llwybrau cerdded, felly'r rhagdybiaeth yw bod rhai modurwyr yn taflu'r eitemau hyn allan o ffenestri eu ceir wrth basio drwy'r ardal.

"Mae'r diffyg palmentydd ar y llwybrau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i ni gasglu sbwriel yn rheolaidd. Dyna pam rydym wedi creu'r tîm newydd hwn, a fydd hefyd yn gweithredu ar y cyd â cherbydau rheoli traffig ac arwyddion a all helpu i rybuddio modurwyr sy'n pasio am eu presenoldeb ar y ffordd.

"Rydym wedi cwblhau gwaith clirio sbwriel yn ddiweddar ar hyd ffordd rhwng y Glais a Gellifedw ac mi synnais o weld faint o sbwriel oedd wedi'i gasglu.

"Mae'r cyngor yn gwneud ei orau i gadw Abertawe'n lân ac yn rhydd o sbwriel, ond mae angen i aelodau'r cyhoedd chwarae eu rhan a gofalu am eu hamgylchedd lleol."

Mae'r prosiect glanhau diweddaraf yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau (CWOT) sy'n gweld timau'n mynd o gwmpas cymunedau bob wythnos, gan dargedu ardaloedd o lystyfiant sy'n gordyfu, clirio palmentydd a grisiau yn ogystal â thacluso lonydd.

 Meddai'r Cyng. Anderson, "Gwnaethom ymrwymiad i breswylwyr y byddem yn gwneud Abertawe'n lle gwell a glanach i fyw ynddo. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol (£2 filiwn) yn hyn ac mae'r holl gynlluniau hyn yn helpu i hyrwyddo Abertawe fel dinas lân lle gall preswylwyr fod yn falch ohono."

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Ebrill 2025