Cynghorydd Gwella Ysgolion Uwchradd (dyddiad cau: 02/05/25 - hanner dydd)
£66,724 - £70,009 (+3SPA) y flwyddyn. Soulbury 19-22+3 SPA. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Cynghorydd Gwella Ysgolion i gyfrannu at wella addysg ar draws ysgolion uwchradd Abertawe.
Teitl y swydd: Cynghorydd Gwella Ysgolion Uwchradd
Rhif y swydd: ED.73668
Cyflog: £66,724 - £70,009 (+3SPA) y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynghorydd Gwella Ysgolion Uwchradd (ED.73668) Disgrifiad Swydd (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.73668
Dyddiad cau: 12pm (hanner dydd), 2 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Rydym am gefnogi arweinwyr ysgolion Abertawe i yrru gwelliant trwy:
- datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel;
- gweithio ar y cyd i godi safonau;
- darparu cwricwlwm i ganolbwyntio ar ragoriaeth, lles a thegwch; a
- cefnogi gwerthusiad cadarn o fewn system hunan-wella.
Rydym bellach yn ceisio recriwtio gweithiwr proffesiynol hynod lwyddiannus i ymuno â'n tîm ymroddedig o gynghorwyr gwella ysgolion. Dylai ymgeiswyr fod yn benaethiaid uwchradd/uwch arweinwyr o ysgolion llwyddiannus a/neu gael llwyddiant diweddar fel gweithiwr proffesiynol gwella addysg yn y cyfnod uwchradd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni rôl cynghorydd gwella ysgolion ar gyfer ysgolion yn Abertawe a bydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i:
- cyfrannu at gefnogaeth Cyngor Abertawe i arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu, a
- gweithio'n effeithiol gyda'r Bartneriaeth Ranbarthol a phartneriaid cyflenwi allweddol eraill i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth ac adolygu'r cwricwlwm parhaus.
Bydd y swydd yn dechrau ar 1 Medi 2025 a bydd yn swydd barhaol.
I drefnu trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
David Thomas, Prif Gynghorydd Gwella Ysgolion ar 07968135550 neu drwy e-bost yn David.thomas1@swansea.gov.uk
Mae ffurflenni cais a chopïau o'r disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gael oddi wrth www.swansea.gov.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 2 Mai 2025 (hanner dydd)
Rhestr fer: 6 Mai 2025
Cyfweliadau: 14 Mai 2025
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol