Ysgrifennydd Tai Llywodraeth Cymru'n ymweld â datblygiad Rhagor o Gartrefi yn Abertawe
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant, wedi bod ar daith dywys o un o ddatblygiadau tai diweddaraf Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe yn y broses o greu 13 o gartrefi newydd yng nghymuned Trefansel. Mae'r cymysgedd o fflatiau ag un ystafell wely a thai â thair ystafell wely yn rhan o raglen Rhagor o Gartrefi arobryn y cyngor.
Croesawodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, Ms Bryant i'r ddinas i arddangos y cartrefi diweddaraf sy'n rhad-ar-ynni, sydd wedi cael eu hadeiladu ar dir cyngor yn y ddinas yn dilyn dymchweliad adeilad cyngor hŷn nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach.
Roedd cynrychiolwyr cabinet o gynghorau cyfagos, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Castell-nedd a Phort Talbot a Sir Gaerfyrddin hefyd ar y daith.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y datblygiad yn cynnwys cyfanswm o 13 o gartrefi newydd, sy'n cynnwys 8 o fflatiau ag un ystafell wely, 5 tŷ â thair ystafell wely, a bydd pob un ohonynt yn cynnwys technoleg ynni effeithlon, gan gynnwys paneli solar, storfeydd batri a gwres o'r ddaear. Bydd pob un wedi'i ddylunio i gadw'r cartref yn gynhesach ac i leihau biliau ynni cymaint â phosib.
Mae cam diweddaraf y gwaith yn rhan o raglen Rhagor o Gartrefi ehangach y cyngor sydd eisoes wedi creu mwy na 280 o gartrefi cyngor ychwanegol yn y ddinas.
Dywedodd y Cyng. Lewis ei bod hi'n falch iawn o allu arddangos y datblygiadau tai diweddaraf yn y ddinas. Meddai, "Dyma gyfle gwych i arddangos yr hyn y mae Abertawe'n ei wneud o ran creu cartrefi newydd mawr eu hangen yn y ddinas.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn o ran helpu gyda chyllid i gyflwyno technoleg fodern yn y cartrefi rydym yn eu hadeiladu a sicrhau y gall tenantiaid elwa o filiau ynni isel iawn.
"Nodwyd yn flaenorol nad oedd angen Tŷ Brondeg mwyach. Mae rhan o'n strategaeth wedi cynnwys edrych ar hen safleoedd yn y ddinas dan berchnogaeth y cyngor lle gallwn adeiladu tai newydd ac ychwanegu at ein stoc tai presennol.
"Yn bwysig, mae'r cynllun diweddaraf hwn yn cynnwys sawl eiddo ag un ystafell wely, y mae galw mawr amdanynt yn Abertawe.
"Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad mawr gan y cyngor ac rydym wedi ymrwymo i wario £250 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
"Rwy'n hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn dilyn yr esiampl a osodwyd gan gynlluniau Rhagor o Gartrefi blaenorol yr ydym wedi'u cwblhau yn y blynyddoedd diweddar - gan ddarparu cartrefi modern, diogel a chynnes i deuluoedd neu unigolion."
Gall preswylwyr ddarganfod rhagor am ddatblygiadau Rhagor o Gartrefi parhaus y cyngor ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/datblygiadautaicyngornewydd.