Gwasanaeth ailgylchu prawf ar gyfer plastigion meddal yn Abertawe
Mae cynllun peilot i helpu preswylwyr i ailgylchu mwy fyth o'u gwastraff cartref yn cael ei lansio yn Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe'n treialu cynllun ailgylchu ymyl y ffordd newydd lle bydd eitemau plastig meddal fel pecynnau creision, deunydd lapio bwyd a bagiau siopa plastig yn cael eu casglu o gartrefi fel rhan o'r casgliadau gwastraff cartref.
Ar hyn o bryd, os yw preswylwyr am ailgylchu eitemau plastig meddal, yr unig ddewis sydd ganddynt yw mynd â nhw i'w harchfarchnad leol, lle darperir cyfleusterau ailgylchu fel arfer.
Cynhelir y prawf yn Abertawe ar draws 15 o gymunedau y cesglir eu gwastraff cartref ar ddydd Mawrth a dydd Mercher ac mae'n cynnwys oddeutu 20,000 o gartrefi. Cynhelir y prawf rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr.
Yn Abertawe, mae preswylwyr eisoes yn ailgylchu tua 70% o'u gwastraff cartref. Mae arolygon hefyd wedi dangos bod cyfran fawr o wastraff sachau du'n cynnwys eitemau plastig meddal.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd preswylwyr yn yr ardaloedd prawf yn derbyn cyflenwad o sachau ailgylchu glas, ynghyd â thaflen wybodaeth sy'n esbonio popeth am y prawf.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Ar hyn o bryd, mae Abertawe'n perfformio'n dda iawn o ran ailgylchu, ac mae'r rhan fwyaf o breswylwyr yn defnyddio'r holl wasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd, yn ogystal â rhoi niferoedd cyfyngedig o sachau du allan i'w casglu.
"Rydym yn gwybod bod awydd i breswylwyr ailgylchu mwy o'u gwastraff cartref, yn enwedig eitemau plastig meddal fel bagiau siopa - sydd ar hyn o bryd yn cael eu rhoi mewn gwastraff sachau du.
"Bydd y prawf yn caniatáu i'r cyngor ddeall sut y gellir cynnwys bagiau a deunydd lapio plastig yn y casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd yn y dyfodol.
"Bydd aelwydydd sydd wedi'u cynnwys yn yr ardaloedd prawf yn derbyn sachau lliw glas a gwybodaeth am y cynllun.
"Rydym wedi trefnu'r cynllun prawf fel bod pob math gwahanol o lety'n cael ei gynnwys, fel strydoedd teras a datblygiadau tai. Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r materion sy'n codi o'r prawf o ran casgliadau.
"Yn ddelfrydol, ein nod yw i aelwydydd gael y cyfle i leihau eu gwastraff sachau du hyd yn oed ymhellach a rhoi hwb i'n cyfradd ailgylchu gyffredinol."
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun prawf ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/plastigionmeddal