Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau trafnidiaeth yn Abertawe'n derbyn cymorth

Mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau dros £3miliwn ar gyfer gwelliannau yn y ddinas sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

Transport

Dyrannwyd cyfanswm o £3.188miliwn i Abertawe a chaiff ei fuddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau.

Cynhwyswyd prosiectau a fydd yn helpu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, gwaith lliniaru llifogydd, yn ogystal â mannau gwefru cerbydau trydan ac isadeiledd cerdded/beicio yn y cais llwyddiannus a wnaed i Lywodraeth Cymru yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae £600k yn mynd tuag at ddatblygu cynllun trafnidiaeth strategol i wella trafnidiaeth gynaliadwy ar hyd Coridor Gogledd y Ddinas (rhwng Penlle'r-gaer a chanol y ddinas).

Mae peth o'r cyllid (£380k) wedi'i glustnodi ar gyfer rhaglen Coridor Bysus Cwm Tawe - sy'n ceisio gwella dibynadwyedd gwasanaethau bysus sy'n teithio o ogledd y ddinas i ganol y ddinas a'r Mwmbwls.

Gall gwelliannau pellach gynnwys datblygu hyb trafnidiaeth integredig yn y Mwmbwls, gan newid maes parcio'r Llaethdy'n hwb ar gyfer bysus, gan ei wneud yn haws i drafnidiaeth gyhoeddus deithio i'r pentref poblogaidd ar lan y môr ac oddi yno.

Sicrhawyd dros £200k hefyd fel rhan o'r setliad i wella ffyrdd yn y ddinas sy'n dueddol i gael llifogydd, gan gynnwys Cilâ a Scurlage ym Mhenrhyn Gŵyr.

Mae cynlluniau i greu llwybr cerdded a beicio diogel mawr ei angen sy'n ymestyn ar draws Comin Clun hefyd wedi cymryd cam ymlaen gyda £50k wedi'i ddyfarnu i gwblhau'r camau nesaf yn y broses gynllunio ar gyfer y llwybr.

Caiff cyllid ychwanegol ei ddefnyddio i ddatblygu cynigion ar gyfer rhannau o isadeiledd teithio llesol rhwng Pen-clawdd a Thre-gŵyr a rhwng Casllwchwr a Thre-gŵyr.

Trefnwyd mannau gwefru cerbydau trydan ar y stryd hefyd fel rhan o'r dyraniad grant.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Bydd amrywiaeth eang o brosiectau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn elwa o'r grant diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru.

"Mae helpu i gadw Abertawe'n symud yn flaenoriaeth allweddol, boed mewn car, ar fws neu wrth feicio a cherdded.

"Rydym yn parhau i edrych ar lwybrau allweddol i mewn i ganol y ddinas ac allan ohoni o ran datblygiad fel y gall trafnidiaeth gynaliadwy fel gwasanaethau bysus gael eu blaenoriaethu a gellir eu gwneud yn fwy dibynadwy ac aml.

"Mae Comin Clun yn parhau i fod yn flaenoriaeth o ran creu llwybr cerdded a beicio diogel sy'n cysylltu Llandeilo Ferwallt a glan y môr ym Mae Abertawe. Mae'r cyllid rydyn ni wedi'i dderbyn mewn perthynas â'r cynllun hwn wedi ein galluogi i symud y cynllun ymlaen i'r cam nesaf ac i ddatblygu'r llwybr hwn cyn gynted â phosib."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Ebrill 2025