Toglo gwelededd dewislen symudol

Technegydd Cynllunio / Graddedig (dyddiad cau: 16/05/25)

£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Mae hon yn swydd llawn amser (37 awr yr wythnos), i'w benodi ar gontract Parhaol. Mae hon yn swydd Technegydd Cynllunio/Graddedig sy'n rhoi cyfle i weithio ochr yn ochr â swyddogion cynllunio a helpu i yrru ystod eang o brosiectau a chynigion cynllunio ymlaen, gan gyflawni agenda cynllunio strategol uchelgeisiol a llunio lleoedd y Cyngor.

Teitl y swydd: Technegydd Cynllunio
Rhif y swydd: PL.63727-V1
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Technegydd Cynllunio (PL.63727-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 249 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.63727-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 16 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Dyma'ch cyfle i ymuno ag adran gynllunio uchel ei barch yn Abertawe ar adeg allweddol i'r Ddinas a'r Sir, gan chwarae rhan bwysig wrth lunio datblygiadau yn y dyfodol a gwella'r amgylchedd naturiol ac adeiledig lleol. Mae'n gyfle i weithio ochr yn ochr â thimau cyfeillgar, brwdfrydig sy'n gyfrifol am gyflawni agenda cynllunio strategol uchelgeisiol a chreu lleoedd y Cyngor fel rhan o gyflawni ein hamcanion lles corfforaethol.

Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo swyddogion cynllunio ar ystod eang o brosiectau diddorol, gan gynnwys drwy weithgareddau ymchwil, arolygon safle, ymgysylltu â'r cyhoedd, mapio digidol a chymorth gweinyddol.  Mae hyn yn cynnwys fel rhan o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd Abertawe (CDLl2); cynhyrchu canllawiau cynllunio ar bynciau allweddol; monitro ac asesu cyflawni cynllunio; a chefnogi prosiectau adfywio sy'n rhoi bywyd newydd i safleoedd ac adeiladau allweddol ledled Abertawe.

Mae'r swydd yn gyfle gwych i raddedigion cynllunio diweddar ymuno â'r adran, yn ogystal â swyddogion cymorth gweinyddol a thechnegol profiadol sydd â dealltwriaeth o'r system gynllunio.    

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau swydd yn y Disgrifiad Swydd. 

Byddwch yn cael y rheolaeth a'r gefnogaeth angenrheidiol i'ch galluogi i ymgymryd â'ch rôl yn llwyddiannus a datblygu yn broffesiynol.  

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Ebrill 2025