Ffermydd yn helpu i wella Tirwedd Genedlaethol Gŵyr
Mae ffermydd yn Nhirwedd Genedlaethol Gŵyr (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr gynt) yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i helpu i wella'r rhanbarth a hybu bioamrywiaeth.

Mae'r cyngor wedi derbyn cyllid drwy raglen 'Ffermio Bro' Llywodraeth Cymru - cynllun cenedlaethol sy'n cefnogi prosiectau ffermio ym mharciau cenedlaethol a thirweddau cenedlaethol Cymru, sy'n gwneud gwelliannau er budd natur a'r amgylchedd.
Bydd y rhaglen Ffermio Bro yn gweithredu dros dair blynedd tan 2028 ar draws yr holl dirweddau dynodedig yng Nghymru a bydd yn elwa o fuddsoddiad gwerth £1.5m.
Yn Abertawe, bydd grant gwerth mwy na £100,000 yn cael ei fuddsoddi yn ystod y flwyddyn gyntaf (2025/26). Bydd yn cynnwys Cynghorydd Ffermydd newydd ei benodi a fydd yn gweithio gyda'r cyngor ac mewn partneriaeth â pherchnogion ffermydd i ddatblygu prosiectau newydd.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cefnogi prosiectau amgylcheddol, adfer natur a lliniaru newid yn yr hinsawdd sy'n cynnal ac yn gwella cadernid ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu.
Gallai ffermydd hefyd elwa fel busnesau, drwy fod yn fwy cynaliadwy a chadarn.
Bydd ymwelwyr â Gŵyr hefyd yn cael y cyfle i ddarganfod gwahanol agweddau ar y rhanbarth, yn ogystal â mwynhau a deall mwy am y tirweddau dynodedig a'u treftadaeth ddiwylliannol.
Yn y dyfodol, gellid cynnwys prosiectau fel adfer coetiroedd, cael gwared ar rywogaethau anfrodorol goresgynnol, cefnogi rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt a rheoli llifogydd.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn hanfodol i Abertawe yn ogystal â bod yn rhan bwysig o'r tirweddau cenedlaethol ehangach yng Nghymru.
"Mae ffermydd yn gwneud cyfraniad anferth at fodolaeth y rhanbarth, gan gynnig cyrchfan i ymwelwyr, lle i breswylwyr fyw a gweithio ynddo, a chartref i lawer o rywogaethau o fywyd gwyllt.
"Bydd y rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r cyfle i ni weithio'n agosach gyda ffermydd a pherchnogion ffermydd dros y blynyddoedd nesaf, gan eu helpu i ddatblygu prosiectau sy'n gwella penrhyn Gŵyr.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r rhaglen hon yn datblygu a'r buddion a fydd yn deillio ohoni am flynyddoedd i ddod."