Cydlynydd Diogelwch Ffyrdd Ysgolion (dyddiad cau: 12/05/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata. Wedi'i osod tan 31 Mawrth 2026. 37 awr yr wythnos ac amser tymor yn unig. Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.
Teitl y swydd: Cydlynydd Diogelwch ar y Ffyrdd Ysgolion
Rhif y swydd: PL.62911-V1
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Cydlynydd Diogelwch Ffyrdd Ysgolion (PL.62911-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 217 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.62911-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 12 Mai 2025
Mwy o wybodaeth
Mae'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn ceisio penodi Cydlynydd Diogelwch Ffyrdd Ysgolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'u tîm.
Mae'r swydd hon yn darparu hyfforddiant ymarferol i gerddwyr plant (Kerbcraft) i blant 5-7 oed yn Abertawe ac i gydlynu ystod o fentrau Llywodraeth Cymru a lleol sy'n targedu defnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed.
Dylech fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar drwydded ddeifio lawn a bod yn berchennog car.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol