Cynghorydd Rheoli Absenoldeb (dyddiad cau: 14/05/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Dros dro tan 31 Mawrth 2026. Ydych chi'n angerddol am gefnogi ysgolion a sicrhau amgylchedd gwaith iach i staff? Rydym yn chwilio am Gynghorydd Rheoli Absenoldeb ymroddedig i ymuno â'n tîm a chanolbwyntio ar reoli salwch mewn ysgolion
Teitl y swydd: Cynghorydd Rheoli Absenoldeb
Rhif y swydd: CS.73680
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Rheoli Cynghorydd Absenoldeb (C.73680) Disgrifiad Swydd (PDF, 253 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73680
Dyddiad cau: 11.45pm, 14 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i Benaethiaid ar reoli salwch staff hirdymor.
- Paratoi a rheoli gohebiaeth a gwaith papur achos ar gyfer gwrandawiadau absenoldeb salwch.
- Cyd-fynd â phenaethiaid ym mhob cam ffurfiol o gyfarfodydd a gwrandawiadau absenoldeb salwch hirdymor.
- Cysylltu ag Undebau Llafur ynglŷn ag achosion salwch.
- Darparu hyfforddiant ac arweiniad ar reoli absenoldeb salwch a lles gweithwyr.
- Gweithredu strategaethau ymyrraeth gynnar i gefnogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt.
- Anelu at leihau lefelau absenoldeb salwch a chostau cysylltiedig o fewn cyllidebau ysgolion.
Cymwysterau a Sgiliau:
- Dealltwriaeth gref o bolisïau a gweithdrefnau absenoldeb salwch.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Y gallu i weithio ar y cyd ag arweinyddiaeth ysgol a rhanddeiliaid allanol.
- Profiad o reoli achosion absenoldeb salwch cymhleth.
- Dull rhagweithiol o ddatrys problemau a rheoli achosion
Ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol ar les staff yr ysgol a sicrhau amgylchedd gwaith cefnogol ac iach. Gwnewch gais nawr i fod yn rhan o'n tîm ymroddedig!
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol