Swyddog Cymorth Busnes (dyddiad cau: 23/05/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Mae hon yn swydd dros dro tan 31 Mawrth 2026 yn y lle cyntaf. Mae'r Tîm Anghenion Dysgu a Chynhwysiant Ychwanegol (ALNIT) yn chwilio am Swyddog Cymorth Busnes i ymuno â thîm prysur i gefnogi'r Tîm ALNI ehangach o fewn y Gwasanaeth Dysgwyr Bregus.
Teitl y swydd: Swyddog Cymorth Busnes
Rhif y swydd: ED.73687
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cymorth Busnes (ED.73687) Disgrifiad Swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.73687
Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae Tîm ALNI yn ceisio recriwtio Swyddog Cymorth Busnes â chymhelliant uchel i drefnu a darparu ystod lawn o systemau a phrosesau gweinyddol ar gyfer y tîm.
Bydd gofyn i'r deiliad swydd gefnogi swyddogaethau busnes arbenigol a chynnal systemau olio a chofnodi priodol.
Byddai profiad a gwybodaeth am ADY yn fantais.
Rhaid i chi fod yn drefnus a gallu cyfathrebu'n effeithiol â rhieni, ysgol ac asiantaethau allanol mewn amgylchedd heriol.
Mae'r gallu i ddefnyddio ystod o becynnau Office 365 yn hanfodol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol