Toglo gwelededd dewislen symudol

Ewch allan i gerdded yn ystod Mis Cerdded Cenedlaethol y mis Mai hwn

Mae preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas yn cael eu hannog i fynd allan i gerdded i roi hwb i'w hiechyd a'u lles.

Walking Boots

Mae mis Mai yn 'Fis Cerdded Cenedlaethol' - rhaglen ffordd iach o fyw ledled y DU sy'n cael ei chydlynu gan yr elusen 'Living Streets'.

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi'r cynllun ac yn annog pawb i fanteisio i'r eithaf ar ddechrau heulog y mis drwy wisgo'u hesgidiau cerdded a mynd allan i gerdded.

Gall y rheini sydd am gymryd rhan, ond nad ydynt yn siŵr ble i ddechrau, ddilyn y llwybrau a geir sy'n rhan o'r 120km o rwydwaith cerdded a beicio pwrpasol sydd eisoes yn ei le yn y ddinas. Mae'r llwybrau'n rhan o rwydwaith Teithio Llesol cynyddol y cyngor https://www.abertawe.gov.uk/teithiollesol

Mae'r cyngor hefyd yn helpu i gydlynu dwsinau o deithiau tywys wythnosol ar draws gwahanol gymunedau yn y ddinas fel rhan o'i strategaeth Iechyd a Lles. Gellir dod o hyd i fanylion y gwahanol weithgareddau yn https://www.abertawe.gov.uk/iachgerdded

I deuluoedd sydd am werthfawrogi arfordir hardd y ddinas, gallan nhw anelu am benrhyn Gŵyr a cherdded ar hyd rhannau o Lwybr Arfordir Gŵyr sy'n ymestyn am 61km o'r Mwmbwls yr holl ffordd drwodd i Gasllwchwr. https://www.abertawe.gov.uk/cerddedllwybrarfordircymru

Buddsoddodd y cyngor yn ddiweddar mewn gwaith i wella rhan o lwybr yr arfordir yr effeithir arni gan erydiad arfordirol, gan helpu i ddarparu llwybr ehangach a mwy hygyrch i bawb ei ddefnyddio, gan gynnwys rhieni â bygis a defnyddwyr cadair olwyn.

Mae gwe-dudalennau cerdded y cyngor yn cynnwys ystod eang o droeon tywys a chylchol gyda mapiau y gellir eu lawrlwytho a'u defnyddio i arwain pobl i'w cyrchfan.

Ac i'r rheini sy'n teimlo'n anturus, mae 400km o lwybrau hawliau tramwy cyhoeddus sy'n rhedeg ar draws llawer o rannau gwledig Abertawe a Gŵyr. Bydd map yn helpu'r cyhoedd i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas. https://www.abertawe.gov.uk/maphawliautramwy

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, Rydym yn ffodus iawn fod llawer o gyfleoedd cerdded i'w cael yn Abertawe. P'un a yw teuluoedd am wneud eu ffordd i'n harfordir hardd a mwynhau golygfeydd trawiadol Llwybr Arfordir Gŵyr neu gerdded ar hyd y milltiroedd o rwydwaith teithio llesol sydd gennym yma.

"Mae'r digwyddiad Mis Cerdded Cenedlaethol yn ffordd berffaith i deuluoedd ddechrau misoedd cynhesach y gwanwyn a'r haf a dod yn iachach."

I gael rhagor o wybodaeth am Fis Cenedlaethol Cerdded 'Living Streets', ewch i https://www.livingstreets.org.uk/get-involved/national-walking-month/

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mai 2025