Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Asesu (dyddiad cau: 23/05/25)

£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Yn Opsiynau Tai, byddwch yn ymuno â thîm ymroddedig sy'n asesu a chofrestru ceisiadau ar gyfer Tai Cyngor.

Teitl y swydd: Swyddog Asesu
Rhif y swydd: PL.0302-V1 
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Swyddog Asesu PL.0302-V1 (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle 

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.0302-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn ein swyddfa Stryd Fawr yn Abertawe; Bydd gofyn i chi gynnal asesiadau gyda chleientiaid yn ein swyddfeydd a dros y ffôn.  Mae'r holl asesiadau yn unol â'r Polisi Dyraniadau Tai.  Mae elfen o weithio gartref yn y rôl, ond mae'n seiliedig ar swyddfa yn bennaf.

Ar ôl asesu cais am ailgartrefu a allai arwain at ganlyniad cadarnhaol neu beidio, bydd gofyn i chi roi cyngor i'r cwsmer.  Pan fydd yr asesiad rydych wedi'i gwblhau yn annhebygol o arwain at gynnig Llety y Cyngor, bydd angen i chi reoli disgwyliadau cwsmeriaid, gan ddarparu gwybodaeth am chwilio am atebion amgen mewn marchnad dai heriol.  Bydd angen sgiliau cyfathrebu hyderus arnoch gan y byddwch yn cwrdd â chwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed, sydd ag anghenion ychwanegol neu arddangos ymddygiad heriol.    

Byddwch yn gyfrifol am ystod o dasgau sy'n gysylltiedig â chofrestru pobl ar ein rhestrau aros yn ogystal â chadw cofnodion cywir, cynhyrchu ystadegau a chadw at bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.

Mae'r galw am Dai Cymdeithasol yn uwch nag erioed ac mae'r rôl hon yn cynnwys rheoli llwyth gwaith mawr mewn amgylchedd dan bwysau, felly mae'r gallu i weithio yn yr amgylchedd hwn yn hanfodol.

Bydd angen i chi allu gweithio ar becynnau meddalwedd lluosog i reoli'ch llwyth achosion yn effeithiol.

 Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mai 2025