Gweithiwr Cymorth Dydd (dyddiad cau: 26/05/25)
£25,584 i £26,409 y flwyddyn pro rata. Mae gwasanaeth dydd Norton yn chwilio am Weithiwr Cymorth Dydd i weithio yn ein gwasanaeth dydd sy'n cefnogi pobl hŷn sy'n byw gydag anghenion cymhleth. 10 awr yr wythnos.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd
Rhif y swydd: SS.66420
Cyflog: £25,584 to £26,409 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (SS.66420) Disgrifiad swydd (PDF, 232 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd SS.66420
Dyddiad cau: 11.45pm, 26 Mai 2025
Mwy o wybodaeth
Mae gwasanaeth dydd Norton yn cefnogi pobl hŷn sy'n byw gydag anghenion cymhleth. Rydym yn edrych i benodi Gweithiwr Cymorth dydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm a gweithio mewn amgylchedd cefnogol i ddysgu sut i weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Byddwch yn cael eich cefnogi i gyflawni lefel 2 iechyd a gofal cymdeithasol QCF ac ymgymryd â'r holl hyfforddiant perthnasol i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol