Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Datblygu DPP (dyddiad cau: 27/05/25)

*Ymgeiswyr mewnol yn unig* £27,269 - £30,060 y flwyddyn pro rata. Mae Adran CPDD yn ceisio recriwtio swyddog datblygu cymunedol arloesol i gefnogi gweithredu cymunedol ar draws ystod o feysydd. Mae'r swydd yn barhaol rhan-amser 21.5 awr yr wythnos.

Teitl y swydd: Swyddog Datblygu DPP
Rhif y swydd:  PL.5603-V3
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Swyddog Datblygu DPP PL.5603-V3 (PDF, 253 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle 

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.5603-V3

Dyddiad cau: 11.45pm, 27 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Yn benodol, datblygu a chefnogi pwyllgorau rheoli gwirfoddol o fewn 39 o Ganolfannau Cymunedol y cyngor a thrwy weithio gyda'r gwirfoddolwyr lleol i greu canolbwynt bywiog o weithgareddau sy'n sicrhau eu cynaliadwyedd parhaus ynghyd â phartneriaid mewn amrywiaeth o leoliadau.  Bydd y swydd benodol hon hefyd yn allweddol i recriwtio gwirfoddolwyr, diweddaru hwb gwirfoddolwyr a chreu a chylchredeg cylchlythyr hyfforddi gwirfoddolwyr.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad mewn rôl datblygu cymunedol neu fod ganddo sgiliau trosglwyddadwy perthnasol.

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Mai 2025