Abertawe'n barod i gymeradwyo cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol
Disgwylir i gysylltiadau cludiant cyhoeddus yn Abertawe a threfi cyfagos gael eu gwella fel rhan o gynllun trafnidiaeth rhanbarthol pum mlynedd.

Mae disgwyl i Gyngor Abertawe gymeradwyo rhestr hir o gynlluniau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth, sy'n benodol i Abertawe, y gellid eu datblygu o 2026/27.
Mae'r cynlluniau'n cael eu cynnig ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a byddant yn amodol ar gymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Maent yn cynnwys gwelliannau i'r prif lwybrau i mewn i ganol y ddinas ac allan ohoni, ynghyd â mwy o lwybrau cerdded a beicio ar draws Abertawe a chysylltiadau cludiant mwy cynaliadwy â chyrchfannau twristiaeth yn y ddinas. Maent yn rhan o ystod eang o gynlluniau posib a restrir yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Bydd prosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yn rhan o'r cynllun ac mae wedi derbyn cyllid grant o'r blaen drwy'r rhaglen ariannu bresennol, gan helpu i ariannu astudiaethau dichonoldeb ar draws gwahanol wasanaethau cludiant.
Y weledigaeth hollgynhwysol ar gyfer Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yw creu rhwydwaith trafnidiaeth modern, cynaliadwy a chydlynol - gan gynnwys trenau, bysus, tacsis, cerdded a beicio
Gofynnir i bob awdurdod lleol rhanbarthol gymeradwyo manylion y cynllun cyn iddo gael ei ystyried i'w gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer De-orllewin Cymru.
Mae'r Cydbwyllgor Corfforedig yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.
Bydd y cynllun pum mlynedd wedyn yn cael ei ddefnyddio i dynnu cyllid grant i lawr gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid trafnidiaeth leol, grantiau diogelwch ar y ffyrdd, llwybrau diogel mewn cymunedau a chyllid teithio llesol.
Derbyniwyd mwy na 900 o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus rhanbarthol a ddaeth i ben ym mis Ebrill yn flaenorol ac maent yn adlewyrchu dymuniad y cyhoedd i weld gwell darpariaeth cludiant cyhoeddus yn ogystal â ffyrdd gwell i ddefnyddwyr ceir.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd y Cydbwyllgor Corfforedig, "Mae Abertawe, ynghyd â chynghorau cyfagos, yn gweithio gyda'i gilydd fel y gellir cynllunio rhwydwaith cwbl integredig o atebion trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y tymor hir a darparu gwell cysylltedd ar draws y rhanbarth.
"Yn y dyfodol, bydd cyllid ar gyfer cynlluniau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn dod i'r rhanbarth, felly mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn cytuno ar gynllun tymor hir sy'n dod â buddion i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r cyhoedd hefyd wedi chwarae ei ran ac wedi ymateb i'r ymgynghoriad diweddaraf ar y gynllun rhanbarthol.
"Mae'n amlwg eu bod am weld gwelliannau i wasanaethau cludiant gan gynnwys bysus a rheilffyrdd ar draws y rhanbarth yn ogystal â gwella ffyrdd i ddefnyddwyr ceir a chreu mwy o gyfleoedd cerdded a beicio.
"Unwaith y bydd pob awdurdod lleol yn y rhanbarth wedi cymeradwyo'r rhestr trafnidiaeth ranbarthol, bydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gyfrifol am gymeradwyo'r cynllun a gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ystod oes y cynllun i sicrhau cyllid."