Toglo gwelededd dewislen symudol

Cydlynydd Newid Digidol (dyddiad cau: 28/05/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr adran Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid i gydlynydd Newid Digidol ymuno â'r Tîm Rhaglen a Phroffolio . Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, llawn cymhelliant a threfnus i ymgymryd â'r rôl hon, a fydd yn adrodd i'r Rheolwr Rhaglen Ddigidol.

Teitl y swydd: Cydlynydd Newid Digidol
Rhif y swydd: CS.68027
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cydlynydd Newid Digidol (CS.68027) Disgrifiad Swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.68027

Dyddiad cau: 11.45pm, 28 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Ydych chi'n angerddol am arloesedd digidol ac ymgysylltu â chwsmeriaid?  

Rydym yn chwilio am gydlynydd Perthynas Busnes TGCh i ymuno â'r Tîm Rhaglen a Phortffolio Digidol. Mae'r tîm amlswyddogaethol hwn sy'n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni rhaglenni a phrosiectau wedi'u nodi gan y cyngor fel blaenoriaethau strategol allweddol. Mae'r tîm yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer popeth sy'n ddigidol i'r cyngor ac yn darparu'r swyddogaeth gaffael ddigidol ar gyfer y Cyngor a'r ysgolion cyfan.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal systemau i gefnogi gwaith Gwasanaethau Digidol. Mae'r swydd hon yn cynnwys rheoli caffael gliniaduron a dyrannu trwyddedau Microsoft ar draws yr awdurdod. Ar ben hynny, mae'r rôl yn darparu cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr, unedau gwasanaeth ac aelodau etholedig i sicrhau defnydd priodol o dechnoleg ar gyfer eu hanghenion. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn cydlynu cyflwyniadau Microsoft a Windows ac yn cefnogi'r Swyddogion Perthynas Busnes.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mai 2025